MRS. CATHERINE ROBERTS, GREENTOWNSHIP, INDIANA, PENNSYLVANIA.
BU FARW, Yn Indiana, Pennsylvania, Gorphenaf 9fed, 1850, Mrs. Catherine Roberts, gwraig Mr. John Roberts, Greentownship, swydd Indiana, Pennsylvania., yn agos i 70 mlwydd oed.Ganwyd hi yn Penybryn, ger Bangor, swydd Gaernarfon. Ymbriododd â John Roberts, Gorphenaf 1811. Symudasant i'r America Gorphenaf 1836. Bu iddynt 7 o blant, 6 o feibion ac un ferch, ond un o'r meibion o'r enw Hugh Roberts a fu farw er ys rhai blynyddau yn ôl, yr hwn oedd yn ddyn ieuanc gobeithiol iawn.
Cafodd yr hen ŵr a'i wraig y fraint yn eu hen ddyddiau o droi eu hwynebau at achos crefydd, a chawsant ill dau eu derbyn yr un pryd yn aelodau o'r eglwys Gynulleidfaol, pryd hyny dan ofal gweinidogaethol y Parch. J. Williamms, yn awr o Palmyra, Ohio.
Tebyg na chafodd Mrs. Roberts ond iechyd pur wael am weddill ei hoes yn y wlad hon; ond er y cysur goreu cafwyd lle da i obeithio iddi hi gael yn y cyfamser hwn afael sicr ar wir grefydd, cyn colli ei gafael ar y bywyd hwn.
Dywedir yr arferai hi fod yn hynod ymdrechgar er llawer o anfanteision (o bellder ffordd, tywydd garw a gwaelder iechyd.) i gyrhaedd modion gras, dan ba rai ymddangosai yn wastad yn un hynod o ddrylliog a thoddedig. Ar derfyn ei hoes ymddangosai fel un fai yn marw beunydd o ran ei theimlad - hollol ymwybodol bod amser ei hymddattodiad yn nesàu. Y Sabboth diweddaf o'i hoes gadawodd ei chartref daearol y tro olaf am byth: ac ar y ffordd tua'r cyfarfod trodd yn sydyn at ei hanwyl briod. gan ddweyd, "Mae arnaf chwant marw - oblegid 'rwyf wedi llwyr flino ar y byd hwn."
Yn yr odfa cymerwyd hi yn glaf fel y bu raid iddynt ei chymeryd i dŷ un o'r brodyr crefyddol, Mr. Hugh Parry. yn agos i'r lle, a chyn y nos Iau canlynol hi orphenodd ei gyrfa flinderus ar y llawr, hyderus genym, i orphwys fry yn y nef, lle nad oes neb o'r oreswylwyr yn dywedyd "Claf ydwyf" mwyach.