MRS. ELEANOR ROBERTS, CENTERVILLE, ALLEGHANY, NEW YORK.

Yn Centerville, swydd Alleghany, Caerefrog Newydd, Gorphenaf 22ain, 1850, Mrs. Eleanor Roberts, yn 57 oed, priod Mr. John Roberts, gynt o blwyf Llanhaiarn, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Ymfudodd hi a'i phriod a'u teulu drosodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1828, ac arosasant yn ardal Utica hyd y flwyddyn 1841, yna daethant yn y blaen drachefn i'r lle y bu farw.

Ei chystudd oedd Dafad wyllt ar y wefus isaf, yr hon a ddechreuodd tua deg mlynedd yn ôl, a bu am chwech mlynedd yn hynod o boenus, ac er pob ymdrech i gael pob cymhorth meddygol agos a phell, heb arbed na thraul na thrafferth. ni chafwyd dim lleshad.

Bu y chwaer hon yn proffesu crefydd am agos i ddeugain mlynedd, ac oddi ar pan ddaeth i'r ardal hon yr ydoedd yn aelod o eglwys y Bedyddwyr yn mhlwyf Freedom, swydd Cattaraugus, a chafodd gymhorth i bara yn ffyddlon hyd y diwedd. Dyoddefodd hirfaith gystudd yn hynod o dawel ac amyneddgar, gan dreulio llawer o'i hamser i ddarllen ei Bibl, ac fel yr oedd ei chystudd yn cynyddu yr oedd yn amlwg yn aeddfedu i wlad well.

Dydd ei chladdedigaeth ymgynullodd tyrfa luosog o Gymry a Saeson, a chyn cyfodi y corph allan, darllenodd a gweddiodd y Parch. R. Morris, ac yn Carmel, addoldŷ yr Eglwys Gynulleidfaol, pregethodd y Parch. William Phillips yn Saesoneg a'r Parch. J. Griffiths yn Gymraeg, y blaenaf ar "Chwant y Cristion i gael ei ddatod a bod gyda Christ," a'r olaf ar "Na thiristaom ni fel eraill y rhai nid oes ganddynt obaith."

Yna ymadawsom mewn cydymdeimlad â'i phriod a'i phlnnt galarus, ac yn ystyriol mai yn fuan iawn y byddwn ninau yn cyfarfod â'r cyffelyb amgylchiadau Cyfaill i'r Byw a'r Marw.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Medi 1850.