MR. GRIFFITH ROBERTS. FRANKFORT HILL, UTICA, NEW YORK.
Genedigol o Ynys Enlli. Mab Robert a Jonnett Jones o Ynys Enlli. Wedi cael ei fedyddio yn Eglwys Aberdaron ar 22ain Rhagfyr 1804.Y teulu wedi symyd i fyw i Cae'r Eos ym mhlwyf Aberdaron.
Griffith Roberts wedi priodi Margaret Williams yn Eglwys Aberdaron ar 17eg Gorfennaf 1825.
Margaret yn ferch i William a Mary Prichard, Tŷ Tan Fron ym mhlwyf Aberdaron, wedi cael ei bedyddio 10fed Mawrth 1797.
Yn 1827 y teulu yn ymfudo i'r America ar y Brig Marquis of Anglesey. Ar y rhestr teithwyr:-
Griffith Roberts.....22.
Margaret Williams....29.
Mary Griffith........ 1.
Yn America sefydlu yn Frankfort Hill yn Swydd Herkimer, yn weddol agos i ddinas Utica.
Bu Griffith Roberts farw ar 22/2/1850 yn 44 oed.
Bu Margaret Roberts farw ar 22/3/1850.
Mae'r ddau wedi eu claddu ym mynwent Graffenburg, Swydd Herkimer, Efrog Newydd.
Glyn Roberts ~ Medi 2021.
MR. GRIFFITH ROBERTS. FRANKFORT HILL, UTICA, NEW YORK.
Chwefror 22ain, Yn Ffrankfort Hill, ger Utica, yn sydyn iawn, yn 44 mlwydd a phedwar mis oed, Griffith Roberts, gan adael gwraig a chwech o blant.Yr oedd y trengedig wedi bod y diwrnod hwnw yn Nghyfarfod Chwarterol y T. C. yn Utica, ac o ran pob ymddangosiad, yn ei iechyd arferol. Daeth adref gyda yr hwyr, ac wedi bod yn ymddyddan am y pregethau, aeth ef a'i briod i'r gwely oddeutu deg o'r gloch, a chyn pen yr awr, yr oedd ei enaid wedi ehedeg i fyd mawr yr ysbrydoedd, er mawr ddychryn, yn gystal a galar, i'w deulu a'r cymydogion oll.
Claddwyd ef y dydd Llun canlynol. Pregethodd y Brawd Evan Morris ar yr achlysur y nos o'r blaen, oddiar 2 Cor. v. 10, a'r Brawd Enoch Samuel, yn yr angladd, oddiar Salm xcvii. 1.
Yr oedd y trengedig yn enedigol o ynys Enlli, ac yn fab i Robert a Janette Jones, Caereos. Ymfudodd yn 1827.
Cafodd ei argyhoeddi am fater mawr ei enaid dan bregeth o eiddo y diweddar Barch. D. Stephen, ac ymunodd gyda'r Trefnyddion Calfinaidd, yn Mhen-y-caerau yn y flwyddyn 1830, a bu yn aelod o'r un cyfundeb hyd angau, ac yn dderbyniwr ffyddlon o'r "Cyfaill," o'i gychwyniad. Collodd ei wraig briod serchog; ei blant, dad tyner; yr eglwys aelod heddychol; meistr, weithiwr gofalus a gonest, a'r ardal gymydog parchus.
Nerthed yr Arglwydd Mrs. Roberts a'i phlant yn eu galar a'u hamddifadrwydd, i roddi eu holl bwys a'u hymddiried ynddo ef.
Frankfort Hill. Richard A. Jones.