MRS. GWEN ROBERTS, BETHEL, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Awst lleg, 1850, pan wedi cyrhaedd y 73 mlwydd o'i hoedran er y Nadolig, ar ôl hir nychdod, Mrs. Gwen Roberts, priod Mr. William Roberts, ger Bethel, plwyf Remsen.Merch ydoedd i Hugh Richard o blwyf Edeyrn, sir Gaernarfon. Buont byw yn Lon las o'r plwyf uchod, ac oddiyno yr ymfudasant i America yn y flwyddyn 1819; yn Philadelphia y glaniasant, ac oddiyno yn mhen tua blwyddyn daethant i'r ardal yma. Bu hi yn byw cyn priodi am 11 mlynedd yn Tŷ Capel, Edeyrn, gyda Mary Roberts, a 5 mlynedd gyda y Parch. W. Roberts, Hendrewen. Ac felly fe'i dygwyd i fyny yn ymyl crefydd, ac yn nghymdeithas llawer o hen bregethwyr y dyddiau hyny. Parhaodd yr undeb priodasol yn agos i 45 mlyneddd, ac yna daeth brenin braw a'i gryman llym ac a'i torodd, er mawr golled a galar cydmar ei bywyd a'i dau feibion.
Yr oedd iddi hi amryw rinweddau a rhagoriaethau, fel priod, mam, a chymydoges, teilwng o'u cofnodi a'u dylyn. Yr oedd calon ei gŵr yn ymddiried ynddi, hi a wnaeth iddo les, ac nid drwg holl ddyddiau ei bywyd. Hi a geisiodd wlân a llin, ac a'i gweithiodd yn ewyllysgar, fel nad ofnai hi am ei thylwyth rhag yr eira, canys ei holl dŷ hi a ddilledir yn ddigonol; craffai ar ffyrdd tylwyth ei thŷ, ac ni fwytai fara seguryd. Cyfodai liw nos a rhoddai fwyd i'w thylwyth a dogn i'w llancesau, a braidd y diffoddai ei chanwyll ar hyd y nos. Agorodd ei llaw i'r tlawd ac estynodd ei dwylaw i'r angenus. Meddyliodd am faes ac a'i prynodd. Ei phlant a godant ac a'i galwant yn ddedwydd, ei gŵr hefyd a'i canmol hi. Bu yn fam aeth i'r achos goreu, drwy letya ac ymgeleddu gweision yr Arglwydd; paratodd ystafell gwely canhwyllbren a.y. i'r prophwydi a fyddai yn teithio y ffordd hyny, a gwnai hi a'i theulu eu gwasanaethu gyda'r caredigrwydd mwyaf. A rhyfedd mor gartrefol y teimlai pawb gyda'r teulu caredig hyn.
Bu yn fam dyner a gofalus i'w phlant, ac anaml y cafodd mam fwy o barch ac ufudd-dod gan ei phlant. Ond er ei holl wasanaeth i grefydd, a'i diwydrwydd a'i llwyddiant yn ei hamgylchiadau bydol, cyfarfu â'i hangau cyn gwneud proffes gyhoeddus o Iesu Grist fel ei Harglwydd a'i Chyfaill. Yr ydoedd yn awyddus iawn i gael darllen a gweddio gyda hi yn ei chystudd, a byddai yn teimlo llawer, ac yn wylo, dan ddylanwad y moddion hyny. Ond edrychai angau a byd arall yn gryn dywyll o'i blaen. Ond galwodd ei gŵr at ei gwely ychydig cyn marw a dywedai, er mor ddychrynllyd oedd angau, nad ymddangosai mor ddu a thywyll iddi y pryd hyny ag yr oedd wedi bod y dyddiau o'r blaen, ac yn fuan ar ôl hyn dybenodd y bywyd, ac ehedodd yr anfarwol enaid i fyd sydd o dragywyddol barhad.
Ymgasglodd tyrfa fawr o bobl i'r angladd, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr R. Everett a W. D. Williams. Pregethasant oddiwrth y geiriau 1 Sam. 20 : 3, ac Amos 4: 12, a dywedwyd ychydig wrth y bedd gan yr ysgrifenydd. Gobeithiwn yn fawr y bydd y tro galarus hwn yn fendith i'r gweddill o'r teulu sydd ar ôl yn galaru.
M. Roberts.