MRS. MARY ROBERTS, FRANKFORT, UTICA, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Chwefror 12fed, 1850, yn Ffrankffort, ger Utica, o'r dwymyn Dyphoid, yn 44 mlwydd oed, Mary Roberts, gwraig Mr. William T. Roberts, a chladdwyd hi dranoeth yn ymyl ei merch, yr hon a gladdwyd ddeng mlynedd yn ôl, yn mhlwyf New Hartfford, y Parch. T. T. Evans yn pregethu oddiar Ps. cxvi. 9, aryr achlysur.Yr oedd y drengedig yn ferch i Mr. Griffith Williams, Ty'n llan Llangwynadl, Lleyn. Daeth i'r wlad yma yn 1828.
Cafodd 8 o blant, o ba rai y mae saith yn fyw, ac mewn galar trwm ar ei hol. Yr hyn a wnelai y galar yn llawer trymach i'w phriod a'i phlant oedd, eu bod hwythau y rhan fwyaf, mor wael yn yr un clefyd, fel nas gallent ymuno yn y cyflawniad o'r gymwynas ddiweddaf i'w mam serchog.