MRS. MARY ROBERTS, DODGE CITY, WISCONSIN.
Mrs. Roberts oedd ferch i Thomas ac Elizabeth Jones o'r Waen, Llanddeiniolen, sir Gaernarfon.Bu yn briod 11 o flynyddau â David D. Roberts, Blaen-y-cae, o'r un gymydogaeth.
Ymfudasant i Wisconsin yn y flwyddyn 1844, a sefydlasant yn swydd Dodge, ac enwasant eu sefydliad ar enw eu cyn gartref, "Blaen-y-cae."
Symudasai Mrs. Roberts i'r lle hwn er mwyn cyfleustra meddygol, a gallasid tybio dros dro fod hyny yn ateb y dyben er ei gwellâd, ond yr oedd ei chlefyd yn un gweniaethus, twyllodrus - y Darfodedigaeth.
Bu farw Hydref 3ydd, 1849, yn 30 oed, ac fe'i claddwyd y 5ed o'r un mis, yn mynwent Dodgeville, swydd Iowa. Gadawodd ar ei hol briod a 3 o blant. Nid ydym am grybwyll nemawr am amgylchiadau "dyn oddiallan" Mrs. Roberts, canys nis gwyddom am ddim yn hyny yn wahanol i fywydau y cyffredin, ond yr ydym yn caru gwneyd, ac yn hoffi gweled eraill yn gwneyd byr-grybwylliad am efföithiau gwir grefydd - yr addurniadau hyny ag y mae yr Ysbryd Glan yn gwisgo pechadur â hwy, yn enwedig mewn cyfnod o amser ag y mae hyny mor brin, ac amheuaeth (scepticism,) yn blino cynifer hyd yn nod yn yr eglwysi. Gwyddai Mrs. Roberts am wyniau gwrthwynebus wedi eu hir feithrin ag ofer gwmniaeth wageddus, ond dangosodd yn fuan ar ôl ymuno â'r eglwys fod ynddi dueddfryd nas gallasai ei wasanaethu â phethau llygredig.
Ymroddodd i feithrin ei chrefydd, er trwy lawer o anfanteision. Celai gymaint o'r hyn y sychedai ei henaid am dano yn y Beibl, yn y pregethau, ac yn y cyfarfodydd eglwysig, fel nas gallai pethau cyffredin ei hattal iddynt.
Am y ddwy flynedd gyntaf ar ol dyfod i'r wlad hon cerddai bedair milldir un wythnos, a chwe' milldir yr wythnos arall yn gyson i'r cyfarfod eglwysig, a thystiai iddi lawer pryd yfed cwpaneidiau cryfion o win yr efengyl y pryd hyny, nes anghofìo ar brydiau weini rhyw garedigrwydd mawr i'w hangenion corfforol. Gofalai Mrs. Roberts am nodwedd crefyddol dysglaer yn mhob lle ac amgylchiad. Teimlai yn ddwys am ei hen gyfeillion yn swydd Dodge. Nid peth bychan i un a brofodd lawer o fudd yn nghyfrinach pobl dduwiol yw ymadael a'r cyfryw. Gall ambell un newid ei eglwys a'i enwad crefyddol mor rwydd ac mor aml a newid ei grys - nid felly Mrs. Roberts; yr oedd hi yn caru y brodyr, ac yn mynwes yr eglwys.
Nis gellir ei chanmol am haelder golygiadau am yr enwadau crefyddol - Methodistiaid a saint - Trefnyddion a duwiolion, oeddent yn swnio bron yn gyfystyr iddi hi; ond am yr enwadau eraill a geir ar eirlechres y byd crefyddol, ni ofalai hi fawr am danynt. Ymwelai dau o weinidogion â hi un diwrnod, a gallesid deall arni nad oedd y rhai'n yn atteb i'w phrawf rëol hi - gofynai y naill weinidog i'r llall, a oedd yr un glaf yn ch'waer iddo ef? atebai yntau yn nacaol, gan dybied, ysgatfydd, mai chwaer o'r un enwad crefyddol a olygai. Dywedai Mrs. R. ar eu hymadawiad, "Mi synais beth wrth glywed - yn dyweyd nad oeddwn i yn chwaer iddo, nes y cofiais i yr adnod sydd yn dyweyd, mai "pob un ar sydd yn caru yr hwn a genhedlodd, sydd yn caru hefyd yr hwn a genedlwyd o hono."
Rhoddodd lawer o brofion yn ei chystudd o gynefindra ei meddwl a'r Beibl. Yr oedd yn eglur er ys misoedd, nad oedd iddi yma ddinas barhaus; yr oedd gweithrediad cynnyddol yr anian sanctaidd yn arwyddo addfedrwydd cynnarol. Ymddyddanai yn serchus am ei gobaith da trwy ras, ac yr oedd ei pherffaith gariad yn bwrw all- an ofn. Yr oedd ei chlefyd wedi caethiwo ei chorff i gylch ei gwely er ys tro, ac yr oedd ei meddwl hefyd wedi ei ddwyn i gyfeiriad pennodol - Duw a'i wirionedd oedd ei phobpeth bron. Dywedai wrthym fod y cwlwm rhyngddi a'i phriod wedi dirwyn yn dyn, a bod ganddi brofiad o ymysgaroedd mam, ond fod adnabyddiaeth o'r gwrthddrychau sydd ag argraff tragywyddoldeb arnynt, yn ei galluogi i ymddattod oddiwrth bobpeth amserol.
Bu farw gan adael o'i hol dystiolaeth fywiog yn nghydwybodau ei chydnabyddion, fod y "doethineb sydd oddi uchod" yn werth llafurio am dano; a hyderwn y caiff ei chynghorion a'i gweddiau lawer o le yn meddyliau ei phriod a'i phlant. Yr ydym wedi dymuno ganwaith y buasem ein hunain a hwythau hefyd yn ganwyll yn llewyrchu fel Mrs. Roberts.