MR. ROBERT ROBERTS, LAKE APUCKAWAY, MARQUETTE COUNTY, WISCONSIN.
Chwefror 6fed, 1850, yn nhŷ ei chwaer, ger Lake Apuckaway, Marquette County. Wisconsin, yn 19 oed, Mr. Robert Roberts, mab Mr. William a Jane Roberts gynt o Chatham, Llanwnda, sir Gaernarfon, (gwelir eu cofiant yn y "Cyfaill," rhifyn Medi, 1848.) Yr oedd yn nodedig am ei barch i'r Sabboth, Ei glefyd oedd y darfodedigaeth buan, (quick consumption.) Dydd Llun yr lleg, ymgynnullodd Cymry y gymydogaeth i hebrwng ei ran farwol i'w gladdfa, yn Rock Hill.Traddodwyd araith fer, bwrpasol i'r amgylchiad, gan y brawd H. Roberts, wrth y bedd, a chanwyd amryw bennillion cyfaddas.
Ow! y gofid a gafodd - yr hil ddynol,
A'r holl ddoniau gollodd;
Pechod, â du nod a dodd
Bob un, le pawb a wanodd.
Daw o'i ôl ei ddu dylwyth,
Angau chwai in' ing a chwyth,
Medi mae ei adwyth - bob oed a gradd,
Ie lladd bob rhyw a llwyth.