MR. PETER ROWLAND, RACINE, RACINE COUNTY, WISCONSIN.
Yn Racine, Mawrth 21ain, 1850 yn 27 mlwydd oed, Mr. Peter Rowland, ar ôl bod yn glaf 13 o ddyddiau o'r enynfa ar ei ranau tufewnol.Mab ydoedd i Edward a Britchett Rowland, Penal, swydd Feirion.
Yr oedd ein cyfaill yn aelod eglwysig yn Racine gyda'r T. G, ac yn un o Ddirprwy wyr Cymdeithas Ddirwestol y Cymry, ac yn aelod hefyd gyda Meibion Dirwest (Sons of Temperance,) ac hefyd o Gymdeithas y Cymry Seren y Gorllewin (Fire Department Star of the West) Rhif. 3ydd. Ac wrth edrych i mewn i'r gwahanol gymdeithasau, a sylwi ar bethau, gallwn ddywedyd heb ofni cyfeiliorni, collasom gyfaill ffyddlon bob amser, a pharod a helaeth yn ei gyfraniadau.
Ac ar ddydd ei gladdedigaeth, ymgasglodd tyrfa luosog o'r gwahanol gymdeithasau ac eraill i dalu'r gymwynas olaf iddo. Cyfarfu'r gwahanol gymdeithasau yn eu gwahanol lefydd, ac yna daethant at eu gilydd i'r un fan, a daethant gyda'u gilydd at y tŷ. Ac wrth gychwyn oddiyno tuag addoldy y Bedyddwyr Seisonig (addoldy y Cymry yn rhy fychan i gynwys y gynulleidfa) ffurfiasom ein hunain yn un orymdaith.
Ar ôl cyrhaedd yr addoldy, pregethwyd i'r gynulleidfa gan Mr. Rees Evans (T. C.) oddiwrth Eph, 5s 16, ac aethom yn orymdaith fel o'r blaen o'r addoldy i'r gladdfa, lle y gweinyddwyd gan yr un, gan roddi daear mewn daear hyd y bore pan y gelwir arno gyda phawb fo yn y beddau i gyfodi i gyfarfod y Barnwr mawr.
John T. Jones.