MR. THOMAS ROWLANDS, WELSH PRAIRIE, WISCONSIN.
Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1847, o le a elwid Nant-y-graen, gerllaw Bethesda, swydd Gaernarfon, lle y treuliodd y rhan fwyaf o'i oes; yno y preswyliai pan y galwyd ef i fod yn sant, yr hyn a amlygodd efe i bawb a'i hadwaenai tra y bu byw, ac a'i sicrhâodd ar ei wely angau.Yn mhen oddeutu tair blynedd wedi iddo ymbriodi, ymunodd ag eglwys Crist gyda y Trefnyddion Calfinaidd, a pharhâodd hyd y diwedd heb lychwino ei gymeriad moesol na chrefyddol, i beri dolur i achos crefydd, na cherydd iddo yntau; gras Duw, fel y tystiai yn aml, a barodd iddo fod yr hyn ydoedd, fel y bu, ac y mae eto, er mawl gogoniant ei ras ef.
Oddeutu 9 mlynedd yn ôl, galwyd ef i'r swydd bwysig o fugeilio eglwys Dduw, yr hon a bwrcasodd efe â'i briod waed, yr hon oedd yn deadellu yn Jerusalem, ger Bethesda, yr hyn a wnaed ganddo gyda medrusrwydd a gonestrwydd. Yr oedd yn feddiannol ar y fath gymhwysderau i'r gwaith, fel y rhoddodd foddlonrwydd i'r lluaws i Dduw ei alw i'r gwaith, ac oddiar alwad yr eglwys yn y wlad hon, parhaodd yn y swydd hyd orpheniad ei yrfa, yr hyn a gymerodd le Ebrill l5fed, 1850.
Yr hyn a effeithiodd ei farwolaeth ydoedd y cholic; ni bu yn glaf ond un-ar-ddeg o ddyddiau; felly nid oedd ei gystudd ond byr, eto yn dra thrwm tra y parhaodd, ond er gerwindeb ei gystudd, yr oedd fel wedi ei ddysgu i fod yn foddlawn, ac nid hyny yn unig, ond yr oedd yn meddu profiadau uchel yn y cyfnod hwnw, pan oedd angau yn tynu ei dŷ pridd i lawr.