MR. JOHN WILLIAMS, STEUBEN, NEW YORK.
Yn Steuben, Mawrth 12fed, 1850, Mr. John Williams, mab i Morris a Gwladis Williams, Blaenycae, Penmorfa, swydd Gaernarfon, yn 26 oed.Daeth i'r wlad hon yn y flwyddyn 1847.
Cafodd anwyd trwm, a throdd yn ddarfodedigaeth buan. Bu farw yn nhŷ ei frawd Robert Williams; claddwyd ef yn monwent Capel y Nant, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brawd D. Williams, gynt o Lanidloes; y testyn oedd Salm 90: 5, 6.