MRS. CATHARINE BILLSBORROW. REMSEN, ONEIDA COUNTY.

Rhagfyr 28ain, sef y nos Sabbath diweddaf o'r flwyddyn 1851, yn 46 mlwydd oed, Mrs Catharine Billsborrow, gwraig Mr James Billsborrow, plwyf Remsen, a merch i Evan ac Ann Davies, gynt o Ddolgellau.

Gadawodd ei phriod a chwech o blant i hir alaru ar ei hol. Cymerwyd hi yn glaf y nos Fawrth flaenorol - cafodd gystudd trwm a phoenus iawn. Yr oedd yn wraig grefyddol, yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd - proffesodd Grist yn ngwyneb llawer o anfanteision, a bu ffyddlon hyd angau.

Yr oedd yn wraig ffyddlon, yn fam dyner ac anwyl iawn, yn gymydoges haelionus, yn enwedig i'r tlawd, yn chwaer grefyddol siriol a chyfeillgar.

Bu farw yn ddedwydd yn ôl pob arwyddion i'r rhai presenol. Rhybuddiodd bob un o'i phlant i ymofyn am grefydd, beth bynag fyddai yn ôl; a'i pherthynasau eraill yr un modd. Ac ymadawodd gan roddi y parchedigaeth benaf i Grist a'i grefydd, gyda'i hanadliadau olaf.

Claddwyd y rhan farwol yn Pencaerau. Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brodyr D. Williams a M. Roberts, i dorf luosog, a theulu a pherthynasau tra galarus.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1852.