MRS. ANN GRIFFITHS, STEUBEN, NEW YORK.

Yn Steuben, Mawrth 10fed, 1851, bu farw Ann Griffiths, priod Mr. G. J. Griffiths, o'r lle uchod.

Yr oedd Mrs. Griffiths yn ferch i William a Mary Parry, Cae'r Mur, plwyf Llanengan, swydd Gaernarfon.

Ymfudodd i'r wlad hon er's 33 o flynyddoedd yn ôl. Rai blynyddoedd wedi dyfod i America ymunodd mewn priodas â Mr. G. J. Griffiths, a pharhaodd yr undeb priodasol rhyngddynt dros 29 o flynyddoedd.

Ganwyd iddynt 8 o blant, pa rai sydd oll yn fyw, yn nghyd a'u hanwyl dad, mewn galar dwys ar ei hol. Er ys 7 mlynedd yn ôl ymunodd âg eglwys y Bedyddwyr yn Steuben, a bu yn addurn i'w phroffes hyd ddydd ei marwolaeth. Perchid hi yn fawr gan ei brodyr a'i chwiorydd yn yr eglwys y perthynai iddi. Yr oedd Mrs. Griffiths o dymer ddystaw, addfwyn a llonydd, a gallesid dweyd am dani, "Yr hyn a allodd hon hi a'i gwnaeth."

Yr oedd ei hiechyd wedi dadfeilio er's rhai blynyddoedd, ond eto parhaodd yn ffyddlon gyda chrefydd nes ei symud o'r eglwys filwriaethus i'r eglwys orfoleddus fry. Ei hafiechyd oedd y darfodedigaeth. Cafodd bob cynorthwy meddygol, ond bu y cwbl yn ofer. Ychydig o amser cyn ei marwolaeth, pan oedd ysgrifenydd y llinellau hyn wedi myned i ymweled â hi; dywedai y buasai yn dda ganddi gael byw ychydig yn mhellach er mwyn ei theulu, am fod rhai o honynt heb orphen eu magu, ond o'i rhan ei hun ei bod yn ddigon boddlon i fyned i'r daith.

Ar ddydd ei chladdedigaeth ymgasglodd tyrfa luosog o berthynasau a chyfeillion i ddanfon ei chorph i fynwent y Capel Isaf, Steuben; yn y capel gweddiodd y Parch. H. Humphreys, South Trenton, a phregethodd y brodyr Owen Parry, Remsen, a D. J. Williams, Steuben, ac yna rhoddwyd ei chorph i orwedd yn ei gwely pridd, nes gwawrio'r boreu y cyfodir hi yn berffaith ar ddelw yr Iesu. Bendithied yr Arglwydd y teulu galarus ydyw dymuniad fy nghalon.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Tachwedd 1851.