MR. HUGH GRIFFITHS, GOVERNEUR, ST. LAWRENCE, NEW YORK.
Yn Governeur, swydd St. Lawrence, Chwefror 10fed, 1851, Hugh Griffith ac Ellen ei wraig o fewn tair awr i'w gilydd. Yr oeddynt yn bedwar ugain oed.Eu clefyd ydoedd henaint. Ganwyd hwy yn mhlwyf Llangien, sir Gaernarfon. Gogledd Cymry. Priodasant oddeutu tair blynedd cyn dyfod i'r wlad hon.
Ymfudasant i America a sefydlasant yn New York yn y flwyddyn 1797. Buont wedi hyny yn byw yn Trenton, swydd Oneida. Symudasant wedi hyny i Copenhagen; a thua naw mlynedd yn ôl ymfudasant i'r ardal lle y buont farw.