MRS. ANN HUMPHREYS, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Merch ydoedd Mrs. Humphreys i Hugh ac Ann Hughes, o Lanfiangel y Penant, swydd Feirion.

Ymunodd ag eglwys Dduw pan yn 16 mlwydd oed, dan weinidogaeth y Parch. Evan Griffith, Llanegryn (yn awr Utica). Hi a fu yn ffyddlon iawn gyda'r chwiorydd yn cynal cyfarfodydd gweddio, a chynal crefydd yn mhob dull.

Pan yn 19mlwydd oed ymunodd mewn priodas â Mr. John Hnmphreys. Daeth hi a'i phriod ac un plentyn i'r wlad hon naw mlynedd i'r haf presenol. Sefydlasant yu Marcy, yn agos i Utica. derbyniwyd hi wrth lythyr o Gymru yn aelod yn eglwys Salem. Marcy, a bu yn ffyddlon yno hyd angeu.

Hi a fu farw Mai 2ail, 1851, yn 30 mlwydd oed. Gadawodd briod galarus a 5 o blant bychain i alaru ar ei hôl. Claddwyd hi yn mynwent Salem yn ngwydd tyrfa luosog o bobl, y rhai a deimlent yn ddwys ar yr amgylchiad. Gweinyddwyd gan yr ysgrifenydd ar achlysur y gladdedigaeth. Colled fawr oedd colli y chwaer hon - colled i'r eglwys - colled anadferadwy i'r plant amddifaid - colled fawr i'w phriod galarus ar ei hôl.

Ond yr ydym yn dra hyderus fod marw, er mor chwerw, yn elw mawr iddi hi. Dyma alwad arnom eto i fod yn barod.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1851