MR. GRIFFITH HUMPHREY, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 23ain, 1851, yn Remsen, Caerefrog Newydd, yn ddisymwth iawn, o'r Parlys Mud, (Apoplexy,) Mr. Griffith Humphrey, yn y 59fed flwyddyn o'i oedran.

Ymfudodd i'r wlad yma yn y flwyddyn 1840,o blwyf Llangwnadle, Lleyn, swydd Gaernarfon.

Yr oedd yn aelod o gorff y Trefhyddion Calfinaidd yn Enlli, plwyf Remsen.

Hebryngwyd ei weddillion i Gloddfa Penycaerau, y Parch. D.Williams, Remsen, yn gweinyddu ar yr achlysur.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mawrth 1851.


MR. GRIFFITH HUMPHREY, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ganwyd Griffith Humphrey ar 1/10/1792. Heb ddarganfod man ei fedyddio, ond fe fu yn byw yn Aberdaron ac yr oedd ganddo gysylltiad teuluol ac Ynys Enlli.

Ar 31ain Mai 1813 priododd yn Eglwys Llangwnadl gyda Lowry Roberts, merch Robert a Jane Jones, Tir Rhos, Llangwnadl.

Bu yn ffermio yn Tir Rhos am gyfnod, ond yn 1840 ymfudodd y teulu i America ar y llong St Laurence o Lerpwl, cyrraedd Efrog Newydd 7/9/1840. Ar y rhestr teithwyr gellir gweld:-

Gro Humphrey. 50. Ffermwr
Laura ------------ 47. Ann ------------ 22. Bedyddio Capel Penygraig 7/8/1818.
Humphrey. 19. Bedyddio Capel Penygraig 15/11/1820.
Robert. 16. Bedyddio Capel Penygraig 18/5/1823.
Evan 17.
Ellen. 9. Bedyddio Capel Penygraig 23/8/1831.
Griffith 6. Bedyddio Eglwys Llangwnadl 14/7/1833.
Jane 3. Bedyddio Capel Penygraig 17/7/1836.

Ar ôl cyrraedd America prynodd Griffith Humphrey fferm yn ardal Enlli ym mhlwyf Remsen.

Oddiwrth Cyfrifiad yr Unol Daleithiau yn 1850 gellir gweld ei fod yn berchen 75 erw o dir, 40 erw yn cael ei drin a 35 erw o goed. Yr oedd yn cadw dau geffyl, pedair buwch odro, chwe dafad a dau fochyn. Yr oedd yn tyfu ychydig o wenith ac india corn, ond y prif gnwd oedd ceirch ac yr oedd ganddo 100 hobaid o geirch yn 1850.

Bu Griffith Humphrey farw ar 21ain Ionawr 1851 yn 58 bl 3 mis a 21 diwrnod oed.

Claddwyd gweddillion Griffith Humphrey ym mynwent Capel Penycaerau, Remsen, ac hefyd yno claddwyd ei fab Evan Humphrey ar 20/3/1845 a'i ferch Jane ar 1/8/1854 yn 18 oed.

Rhai o benillion coffadwriaeth am Griffith Humphrey gan Gwilym ap Gwilym Lleyn.

O Langwnad', Swydd Gaernarfon,
Fe gychwynodd dros y mor,
Gyda'i deulu i'r Americ'
Dan arweiniad doeth yr Ior,
Ar ol cyrraedd Gwlad y Rhyddid,
Ymsefydlodd yn y byd,
Llwyddiant mawr a ddaeth i'w ddilyn
I Dduw bo'r clod am hyn i gyd.

Ei hoff deulu nawr a enwaf,
Pan 'madawodd o'r wlad hon,
Ei briod oedd fy modryb Laura,
Ei gynfab oedd fy nghefder John,
Ann a Humphrey, Robert hefyd,
Ac Evan gawsant ben eu taith,
Ond mae Evan hoff cyn heddiw,
Wedi mynd i'r llety llaith.

Ellen hoff a Grifffith hawddgar,
Gyda Jane yr eneth wiw,
Ymofynwch oll fel teulu,
Am gael bod yn heddwch Duw.
Mynd yn gyflym 'r ydym ninau
Fel perth'nasau ar ei ol,
Arglwydd grasol, gwna'n gwaredu
Rhag bod yn forwynion ffol.

Pump o ddegau ac wyth mlynedd,
Tri o fisoedd gyda hyn,
Ac un ar hugain o ddiwrnodiau,
Oedd ei oed yn mynd i'r glyn.
Ar yr unfed-dydd ar hugain,
Colli wnaeth yn llwyr ei ffun,
O fis Ionawr yn y flwyddyn,
Deunaw cant pum deg ac un.

Glyn Roberts ~ Hydref 2021.