MR. EDWARD JONES, MARCY, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Mai l8fed. 1851, bu farw yn Marcy yn agos i ddinas Utica, Mr. Edward Jones, yn 69 mlwydd oed. Daeth Mr. Edward Jones i'r wlad hon yn y flwyddyn 1842. o'r lle a elwir Ysgubor Fawr, plwyf Llanfor, swydd Feirion.Bu yn aelod am flynyddau lawer gyda'r Anuibynwyr yn Rhydywernen, ger y Bala. Teimlodd yr eglwys hono golled fawr ar ei ôl.
Ar ôl dyfod i swydd Oneida, prynodd ffarm yn mhlwyf Boonville yn y swydd hon. Yr oedd ei wraig wedi marw er ys tua 25 mlynedd yn ôl, a bu ef yn cadw tŷ a chartref gyda ei blant hoff ac anwyl hyd o fewn i flwyddyn i'w farwolaeth, ac yn y gwanwyn diweddaf symudodd i fyw i blwyf' Marcy at ei ferch hynaf, sef gwraig y Parch. John Hughes. Ond ni bu ei arosiad ef yno ond byr iawn, nes ei symud drachefn i dŷ ei hir gartref.
Cymerwyd ef yn glaf ar foreu dydd Llun, a bu farw cyn haner dydd y Sabboth canlynol, i gadw Sabboth tragwyddol yn ddiau gyda theulu y drydedd nef. Ni chafodd ond byr ac ysgafn gystudd. Yr oedd ei hyder a'i ffydd yn gadarn yn ei Waredwr am fywyd gwell. Dydd Mawrth canlynol claddwyd ef yn mynwent Salem, a phregethwyd ar yr achlysur gan y Parch. Enoch Samnel, oddiar Eph. 5: 16, a W. D. Williams, oddiar 2 Tim. 1: 12.
Cafodd yr hen frawd, Edward Jones, y fraint o ddechreu ar ei daith grefyddol yn foreu, a pharhau hyd y diwedd. Yr oedd llawer o bethau ynddo gwerth eu cofio a'u gosod mewn ymarferiad gan bob crefyddwr. Yr oedd yn olalus iawn am iachawdwriaeth ei blant ac eraill. Rhoddodd siampl dda iddynt, cynghorodd lawer arnynt; gweddiodd lawer drostynt. Cafodd y fraint o weled rhai o honynt dan iau esmwyth Iesu Grist, a gobeithio y bydd i Dduw o'i ras wrandaw gweddiau y tad ar ran y plant eraill sydd eto heb ufuddhau i'r Arglwydd. Yr oedd yn hoff iawn o'r Bibl a llyfrau crefyddol eraill, ac o'r Cenhadwr a'r Cyfaill o'r Hen Wlad a.y.
Yr oedd yn meddwl yn fawr o'r cyfarfod gweddio yn yr eglwys. Hefyd yr oedd yn selog o blaid yr Ysgol Sabbothol, a soniai am yr ysgol pan ar wely angeu. Yr oedd yn bleidiol i'r achos dirwestol - ni fynai ddim ond dwfr oer yr wythnos y bu yn glaf. |Yr oedd yn ŵr tangnefeddus hollol yn ei holl fywyd, a di-absen am bawb, ac yn teimlo yn dirion ac anwylaidd iawn at weinidogion yr efengyl. Yr oeddym yn teimlo yn llawen pan clywsom ei fod yn dyfod i'r ardal yma i breswylio, ond trodd y teimlad hwnw yn dristwch, gyda ein bod yn brin wedi cael cyfrinach ag ef. Gwelsom ef nos Sadwrn cyn iddo farw. Yr oedd yr adeg yn ddymunol, er ei fod yn nglyn cysgod angeu. Dywedodd, "Ei law aswy sydd dan fy mhen a'i ddeheulaw sydd yn fy nghofleidio. Amen, yn wir tyred Arglwydd lesu." Ond y newydd diweddaf am bawb o deulu y ddaear, ag a fydd am danom ninau oll yn dra buan - "efe a fu farw."
W. D. WILLIAMS.