MR. JOHN JONES, LEHIGH GAP, PENNSYLVANIA.
Mehefin 7fed, 1851, yn Lehigh Gap, Pennsylvania, o'r Typhus Fever, Mr. John Jones, mab i'r diweddar Thomas Jones, Ribo, Trefriw, Gogledd Cymru, yn 28 mlwydd oed.Hwn ydoedd y cyntaf a gladdwyd yn y fynwent perthynol i'r capel newydd Cymreig, (Dinorwig,) eiddo y Trefnyddion Calfinaidd yn yr ardal hon.
Gweinyddwyd gwasanaeth y gladdedigaeth gan y Pnrch. J. Jones, gweinidog y lle, a thraddododd bregeth yn y Capel briodol i'r amgylchiad.
Cyn hir e fwrir yn feirwon - i'r bedd
Gwneir bawb oll yn union;
Hwn yn ieuangc langc dewr lon,
Hyf alwyd i'w afaelion.
R. LLECHYD.