MRS. MARY JONES, BIRMINGHAM, PENNSYLVANIA.
Gan fod y doeth a'r deallus yn ystyried mai peth gweddus ydyw ysgrifeuu coffadwriaethau am enwogion, anianyddwyr, seryddwyr, a.y., pa ham gan hyny y dylid gadael heibio hanesion am rai "rhagorol y ddaear," y rhai nad oedd y byd yn deilwng o honynt? Peth angenrheidiol yw trosglwyddo ychydig o helyntion ein brodyr a'n chwiorydd crefyddol trwy offerynoliaeth yr argraff-wasg i'r cyhoedd er mwyn cadw eu henwau a'u hanes mewn bodolaeth, ac yn enwedig er anog eraill idd eu hefelychu yn eu rhinweddau caumoladwy.Mrs. Mary Jones, ydoedd ferch i Mr. Hugh Roberts, Nant, plwyf Dwygyfylchi, sir Gaernarfon. Tueddwyd ei meddwl, pan oddeutu 22 oed, i arddel Mab Duw mewn modd cyhoeddus, a derbyniwyd hi yn aelod eglwysig yn eglwys Henrhyd, gan y diweddar Barch. Mr. Rowlands. Wedi myned at grefydd, aeth i wasanaethu i le o'r enw Penrhynmawr, rai milltiroedd oddiwrth y capel, yr hyn oedd yn ymddangos yn rhwystr iddi fyned yn aml i'r cyfarfodydd, am fod y ffordd yn myned trwy le diffaeth, ac heibio i hen balas dadfeiliedig, lle oedd yr ardalwyr yn credu bod ysbrydion segur yn dychrynu pobl; ac er bod ofn arni hithau, er hyny trechai ei hawydd am fwynhau moddion gras ofn y diafol ar y ffordd. Yr ydoedd yn hyn yn rhagori ar lawer o chwiorydd a brodyr crefyddol, sydd yn byw yn yr ymarferiad o aros gartref, neu esgeuluso cyfarfodydd eglwysig. Cofied y chwiorydd am ffyddlondeb y chwaer hon.
Pan yn 27 oed, unodd mewn priodas â Mr. David Jones, a bu yn gymhorth mawr iddo yntef i droi ei wyneb i dŷ yr Arglwydd. Arferai fyned at ychydig o chwiorydd crefyddol i gynal cyfarfodydd gweddi pan yn byw ger eglwys Salem, a thystiai iddi gael budd mawr yn hyny.
Daeth hi a'i theulu i'r America yn 1843, a buont yn aros am dymhor yn Palmyra, Ohio. Pan oeddynt yno elai Mr. Jones i weithio o'i gartref, a byddai hithau yn ofalus yr amser hyny am gynal dyledswydd deuluaidd gyda'r plant, a hyderwn y bydd i'w gweddiau gael eu hateb cyn hir ar eu rhan, ac y dychwelir hwy at achos Iesu Grist. Diau y cofiant am weddiau eu mam drostynt holl ddyddiau eu bywyd. Chwiorydd anwyl, a ydych yn gweddio dros eich teulu fel y chwaer hon? Dichon nad yw eich amser chwblhau ond byr; peidiwch a marw cyn gweddio.
Yn 1845 symudodd y teulu i Pittsburgh, ac unasant â'r eglwys sydd dan ofal gweinidogeuthol T. Edwards. Nid oedd hi yn hollol iach, ac fe waelodd ei hiechyd yn raddol trwy effaith y darfodedigaeth. Y tro olaf y bu yn y capel oedd yn amser y Gymanfa, Mai 1851. Yn ei chystudd olaf gwnawd prawf o fedrusrwydd rhai o'r meddygon; ond aeth yn waeth, waeth. Ond pan oedd y corph yn gwaelu, y dyn oddimewn oedd yn cael ei adnewyddu o ddydd i ddydd. O'r diwedd teimlai hiraeth i fynd adref i feddiannu ei hetifeddiaeth; eto yr oedd teimlad at ei phriod a'i phlant yn agos at ei meddwl. Un dydd hysbysodd i T. Edwards, ei bod hi bron ymadael, a'i bod yn ymorphwys ar drugaredd Duw yn ei Fab, a'i bod yn marw mewn gobaith am fywyd gwell. "Dymunaf (ebe hi) i'r penill caulynol gael ei chanu yn fy nghladdedigaeth:—
"Plant yr Arglwydd cym'rwch galon,
Byddwch ffyddlon ar y maes;
Er mor gadarn yw'ch gelynion,
Digon ydyw Crist a'i ras;
Ymddiriedwch yn eich Harglwydd,
Doed hi arnoch fel y del';
Gwlad yw'r hon mae'ch tynfa ati,
Sydd yn llfo o laeth a mel."
"Hefyd fy nymuniad ydyw i chwi bregethu ar ôl fy ymadawiad oddiwrth 2 Tim. 4: 7, 8." Hysbysodd amryw bethau i'w phriod, gan adrodd mor dda oedd ei phrofiad crefyddol, a galwodd y teulu ati idd eu cynghori cyn ymadael, ac hi a'u gadawodd, Hydref 20fed, yn 44 mlwydd oed, a chladdwyd hi dranoeth yn mynwent y Wesleyaid y tu deheuol i Birmingham. Fe ganwyd y penill yn yr angladd, a thraddodwyd pregeth yn ôl ei dymuniad. Gadawodd briod a phedwar o blant i alaru ar ei hol. A hyderwn y cant eto oll hardd gyfarfod yn yr un ardal lonydd, lle na fydd raid ymadael mwy.