MRS. SYDNEY JONES, WESTMORELAND, ROME, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Yr hon a fu farw Medi 26ain, 1851, yn nhŷ ei mab, Mr. Ebenezer Jones, Westmoreland, ger Rome, Swydd Oneida, Caerefrog Newydd, yn y 77ain flwyddyn o'i hoedran.

GWRTHDDRYCH ein cofiant ydoedd weddw-wraig y diweddar Griffíth T. Jones, Bryn-celyn, cofiant vr hwn a ymddangosodd yn y " Cyfaill" am fis Ebrill, 1842. Yr ydoedd y drangcedig yn ferch i Evan ac Anne Griffiths, plwyf Llangian, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Yr ydoedd ei rhieni yn gysurus o ran eu hamgylchiadau bydol; bu iddynt ddau o blant, a Mrs. Jones oedd yr henaf; nid ydyw dydd ei genedigaeth yn hollol wybyddus, ond bedyddiwyd hi Chwefror 19eg, 1775.

"Eglwyswyr" ydoedd ei rhieni o ran eu daliadau crefyddol, a chafodd eu plant ddygiad da i fyny o ran moesau, yn nghyd a gofal cyffredinol am ei heneidiau. Am dymhor ei hieuengctyd ni chefais fawr o wybodaeth, ragor na'i bod o ran tymher naturiol yn ddystaw a thawel, yn hoffus gan ei chydnabyddion, a'i meddwl i raddau o dan argyhoeddiadau crefyddol.

Pan oddeutu 17 oed, llwyr benderfynodd wneuthur proffes gyhoeddus o Fab Duw, gyda y Trefnyddion Calfinaidd, yr hon ffydd a gadwodd yn ddifwlch hyd ddiwedd ei gyrfa. Dywedai mai o dan weinidogaeth un o hen weinidogion y Bedyddwyr y daeth y Gair adref at ei meddwl, mewn modd argyhoeddiadol. Coleddai feddyliau uchel a pharchus am weinidogion yr efengyl, yn enwedigol y rhai hyny a fu yn offerynol yn llaw Ysbryd Duw i'w dychwelyd a'i hyfforddi yn mhen ei fobrdd grefyddol; soniai lawer am dynerwch a thiriondeb yr hen Robert Dafydd, ac ereill, wrth gadw society, a.y.

Pan yn 21 oed, ymunodd mewn priodas â Mr. Griffith T. Jones, Bryn-celyn, lle hefyd y preswyliaeant hyd eu symudiad i'r America, yr hyn a gymerodd le yn y flwyddyn 1818.

Cafodd ei rhan, yn mhrofedigaethau y bywyd hwn fel ereill o deulu Duw, ac fel yr addawyd iddynt, "Yn y byd gorthrymder a gewch," a.y.; yn ac wrth ddyfod i'r America y cafodd ein hen chwaer ymadawedig y cwpaneidiau chwerwaf. (Pwy bynag a ewyllysio weled hanes eu mordaith, edryched i'r "Cyfaill," rhifyn Ebrill, 1842; tybiwyf nas gellir nodi ei chyffelyb mewn un o fil o ymfudiadau Cymreig.)

Cydgynnaliodd ben yr iau grefyddol yn ffyddlon a dirwgnach am dymhor hirfaith gyda chymar ei bywyd, Mr. Jones, yr hwn a fu yn flaenor parchus yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd 60 mlynedd, sef 37 yn Nghymru, a 23 yn America; meddiannai ei phriod gymeriadau, doniau, a thalentau helaeth, ac o'r herwydd, gelwid arno yn fynych i ymweled a'r eglwysi cymydogaethol, pryd y gorfyddai arno adael y teulu yn nghyda'i amgylchiadau i Mrs. Jones a'r plant, heb ddysgwyl tâl na diolch oddiwrth eglwys na pherson, (lle y gwelwn mai mwy peth nag y mae llawer yn ei feddwl ydyw bod yn wraig i flaenor Methodistaidd os bydd yn meddu ar gymhwysderau i fod yn ddefnyddiol gyda'r achos; ni phryderaf ddyweyd na chyferfyd ag amgylchiadau ag a rydd ffydd, amynedd, gras, a doethineb ei wraig ar eithaf gweithrediad.)

Ni byddai y chwaer hon byth yn grwgnach o herwydd yr amser a dreuliai ei phriod gyda'r achos mawr, ond yn hollol i'r gwrthwyneb; trefnai ei ddillad gyda hoffder pan gychwynai, a derbyniai ef adref gyda gwên siriol. Yr ydoedd y teulu hwn, yn nghyd ag ereill, (o'r rhai y mae y rhan fwyaf yn aros hyd yr awr hon, eithr rhai a hunasant,) yn un o sefydlwyr cyntaf yr achos Calfinaidd Cymreig yn swydd Oneida, Caerefrog Newydd, a hawdd gwybod mai nid ychydig o beth ydyw dechreu unrhyw achos da. Bu yr hen fam hon yn Israel yn ffyddlon i ac ymdrechgar dros yr achos yn ei fabandod, yn ôl, os nad uwchlaw ei gallu.

Bu i Mrs. Jones 11 o blant, 7 o ba rai sydd yn awr yn fyw; a chafodd y fraint o weled y rhan fwyaf o honynt wedi cymeryd iau Crist arnynt, dau yn swyddogion yn myddin yr Oen, y Parch. Thomas Jones yn weinidog gyda y Cynnulleidfaolion yn Michigan; a'i mab ieuangaf, Mr. Ebenezer Jones. yn flaenor yn nghyfundeb y Trefnyddion Calfinaidd ymgynnulledigy n swydd Oneida, ar yr hwn y syrthiodd gofal y teulu pan fu farw ei dad, a chyda yr hwn y preswyliodd gwrthddrych ein cofiant hyd ddydd ei marwolaeth, yr hwn hefyd sydd yn teilyngu parch a chanmoliaeth am y gofal a'r amynedd a ddangosodd at ei fam yn ei henaint, ei llesged, a'i chystudd diweddaf.

Ymddengys ei bod wedi cwbl roddi ei hyder a'i hymddiried yn yr Arglwydd, o ran ei hun, a'i hamgylchiadau, am amser a thragywyddoldeb, o'r hyn yr ydoedd ei holl fywyd yn dystiolaeth amlwg; tystiai ei mab na welodd un amgylchiad o groes neu brofedigaeth erioed, na byddai yn peri iddo synu wrth y fath amlygiadau o ymddiried meddwl oedd ganddi yn ei Duw, ei ras, ei drugaredd, a'i ffyddlondeb i'w addewidion; amlygai drwy ei hoes ei bod wedi cymeryd ei orchymynion yn etifeddiaeth iddi dros byth, o ran ei hunan, ei theulu, y byd, a'r eglwys; coffeai y geiriau hyny yn aml, "Na fyddwch achos tramgwydd i neb, nac i'r cenedloedd, nac i eglwys Dduw chwaith."

Yr ydoedd ganddi barch rnawr i Ddydd yr Arglwydd, fel y mynai adael heibio orchwylion angenrheidiol i raddau, hyd ddydd arall ; ac O, fel yr adroddai wrth y teulu, "Cofia y dydd Sabboth i'w sancteiddio ef." Ond ei dyddiau a nesasant i farw, ac fel yr oeddent yn nesâu, yr oedd ei hymddiried yn yr Arglwydd, fel ei chraig a'i gobait, yn dyfod yn fwy i'r amlwg bob dydd yn ystod ei chystudd diweddaf, yr hwn a barhäodd amryw fisoedd; dechreuodd yn guriad neu ddyheuad y galon, (palpitation of the heart,) ac yn mhen amser trodd yn ddyfrglwyf. Gwnaeth ei mab yn orchwyl pennodol i ymddyddan yn aml â hi am ei phrofiad ac ansawdd ei meddwl yn ngwyneb ei hymddifadiad o foddion gras; byddai weithiau yn dywyll, ac weithiau yn oleuach; wrth ofyn pa beth oedd ganddi pan nad oed yn oleu, dywedai mai ffyddlondeb Duw i'w addewidion; a dywedai ei bod yn credu na roddai ei Duw mo honi gyda'i elynion; brydiau eraill crybwyllai eiriau yr Apostol, "Mae arnaf chwant i'm dattod a bod gyda Christ, canys llawer iawn gwell ydyw;" amserau ereill adroddai yr hen bennill hynod hwnw :—

"Mi gysgaf hun yn dawel,
Dros enyd yn y grafel,
Nes dattod trefn y rhod,
Ac yna mewn hedd,
Cyfodaf o'm bedd,
Ar ddysglaer wedd fy Mhriod."

Bu gobaith ei henaid yn angori ar yr adnod a'r pennill uchod am wythnosau lawer; O, fel yr adroddai hwynt, gan godi ei golygon tuag i fyny.

Trymhaodd ei chystydd, fel y suddodd ei phabell o dan ei bwys; nis gallodd ddywedyd ond ychydig, er ei bod mewn meddiant o'i synhwyrau. Parhaodd yn yr ymdrech hyd nos Wener y 26ain o Medi, pryd y galwodd ar rai o'r teulu; aeth ei mab at y gwely, a gofynodd iddi i ba le yr oedd yn myned? Dywedodd mai at Iesu Grist. Gofynodd ynteu drachefn, a oedd ganddi obaith y deuai Iesu Grist i'w hymofyn ato ei hun? Dywedai hithau gyda gwên nefolaidd. Oes! oes! oes! ac yn mhen ychydig hunodd yn dawel ynddo, fel ag y mae wedi gadael tystiolaeth amlwg yn ein cydwybodau, ar ei hol, fod ei henaid wedi ei addfedu i ogoniant, fel y cyfyd ysgafn o ŷd yn ei amser.

Y dydd Llun canlynol eludid ei chorff gwael o dŷ ei mab yn Westmoreland, i fynwent Pen-y-caerau, plwyf Ramsen, (lle y bu ein hen chwaer yn preswylio, y rhan fwyaf o'i hamser yn y wlad hon,) sef ei hen gyd-bererinion, ei chydoeswyr, a'i chyd aelodau eglwysig gynt, y rhai y rhodiodd hi a hwythau yn nghyd i dŷ Dduw, wedi dyfod y tro olaf yn ei hachos hi, ac i dalu eu parch olaf i'w gweddillion marwol, nes rhwng pelledigion ac ereill, yr ydoedd y capel wedi ei orlenwi. Traddodwyd pregeth sobr a difrifol ar yr achlysur gan y Parch. David Williams, Holland Patent, oddiwrth y geiriau, "Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw yw tangnefedd." Rhoddwyd ei chorff i orwedd wrth ochr ei phriod, lle y gorphwys y ddau hen bererin lluddedig yn dawel a digyffro, ar ôl oes hirfaith o lafur caled, hyd foreu udganiad yr Arch-angel.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mai 1852