MRS. MARY LLOYD, GRANVILLE, LICKING COUNTY, OHIO.
Yn Granville, Ohio, Gorphenaf lleg, 1851, Mrs. Mary Lloyd, priod Mr. John C. Lloyd, yn 39 mlwydd. oed.Yr oedd Mrs. Lloyd yn ferch i Robert a Mary Williams, plwyf Aberdaron, swydd Gaernarfon. Mudasant i'r wlad hon a sefydlasant dros dro yn Steuben, Caerefrog Newydd.
Ymunodd ein chwaer ag achos Crist pan yn 18 mlwydd oed. Derbyniwyd hi i gysylltiad ag eglwys y Bedyddwyr yn New York. Yr oedd llawer o arwyddion morwyn ffyddlon a da yn amlwg yn ei bywyd.
Ei chystudd oedd math o darfodedigaeth. Bu yn sâl tua 9 mis. Yr oedd ganddi obaith er yn wan am wellhad, ond teimlo ei hun yn gwanhau o ddydd i ddydd yr oedd, a darfu iddi roi i fyny yn gwbl i drefn y nef gan roddi pwys ei henaid ar y Gwarerdwr bendigedig, a chyflwyno gofal ei hamddifaid i'r hwn sydd wedi addaw eu cadw yn fyw.
Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y Parch. Mr. Beuly (B.) Gadawodd 3 o blant a phriod mewn dwys alar ar ei hôl.