MR. WILLIAM WILLIAMS, EFROG NEWYDD.

DAMWAIN ALAETHUS.
Tra galarus genym fynegi ddarfod i Gymro o'r enw W. Williams, gynt o'r Bryn, Llanegryn, Swydd Feirionydd, golli ei fywyd yn ddiweddar trwy syrthio i'r afon, wrth geisio myned ar fwrdd un o agerddfadau y ddinas hon yn y tywyllwch.
Nid ydym wedi deall bod un sicrwydd am ei gorph, pa un a'i cafwyd a'i peidio.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1838