MR. ROBETRT EDWARDS, UTICA ONEIDA, EFROG NEWYDD.

BU FARW — Yr hen frawd Robert Edwards, aelod o Eglwys y Bedyddwyr yn Utica, gynt o blwyf Penmorfa, swydd Gaernarfon.
Bedyddiwyd a derbyniwyd ef yn aelod o'r Eglwys Fedyddiedig sydd yn ymgynnull i addoli Duw yn y lle a elwir y Garn, yn y swydd uchod, pan yn ieuangc.
Tiriodd yn y wlad hon yn mis Gorphenaf, 1831. Gorphenodd ei yrfa, wedi hir afiechyd, Medi 20fed, 1839, mewn gobaith cryf o gael byw mewn gwlad heb unrhyw haint, yn 68 mlwydd oed.
Oh ! am fod yn barod.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1840