MRS. ELINOR PETERS, RUSSIA, HERKIMER COUNTY, NEW YORK.

Rhagfyr 29ain, 1851, yn Rwssia, swydd Herkimer, 9 milldir o Remsen, yn 18 mlwydd a 6 mis oed, ar enedigaeih plentyn, Elinor Peters, gwraig Adam Hess, wedi bod yn briod am 11 mis.

Yr ydoedd y drengedig yn enedigol o blwyf Llanflhangel Bachellaeth, sir Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon 4 blynedd yn ôl.

Gadawodd briod ac un bychan nmddifad, a brodyr a chwiorydd mewn galar dwys. Y dydd Mercher canlynol hebryngwyd ei rhan ddaearol, i gladdfa Black Creek, lle y gorphwyswyd foreu mawr yr adgyfodiad. Y Sabboth canlynol pregethwyd ar yr achlysur yn y tŷ yn Saesonaeg.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Chwefror 1852