MRS. ANN ROBERTS, TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mrs. Ann Roberts, yr hon a ymadawodd o'r byd hwn, Mawrth 10fed, 1851, yn 80 mlwydd oed, (gwel Cen. am Ebril]) ydoedd ferch i Mr. Griffith ac Ann Jones, o Dregwraig, plwyf Llangwnadl, swydd Gaernarfon.

Ymunodd mewn priodas yn ei hieueuctyd â Mr. John Roberts, Llangwnadi. Bu iddynt 10 o blant - un o honynt a fu farw yn Nghymru, a'r naw eraill yn America. Ni bu ei hoes heb gryn lawer o drallodion, drwy gystuddiau, damweiniau a marwolaethau yu ei theulu.

Yr hynaf o'r plant, (heblaw yr un a fu farw yn Nghymru,) a laddwyd mewn eiliad, drwy gwympiad pren arno pan yn galw ar ei dad o'r coed at ei bryd bwyd. Yr oedd hwn yn dro trallodus nas gellir ei ddesgrifio.

Un arall wlyblosgwyd drwy syrthio i grochan berwedig yn y goedwig, o'r hyn a bu farw ar ôl llawer o gystudd blin. Bu farw Mr. John Roberts yn Hydref y flwyddyn 1829 - 21 mlynedd i'r Hydref diweddaf - a'r ddau ddiwethaf o'r plant oeddynt wedi eu claddu yn lled agos i'w gilydd - un yn mis Mai a'r llall yn Awst - yn y flwyddyn 1828, ychydig dros flwyddyn cyn marw eu tad.

Felly er fod Ann Roberts wedi bod yn briod dros lawer o flynyddoedd, a bod iddi 10 o blant - bu yn weddw a di-blant rhwng 21 a22 o flynyddoedd diweddaf ei hoes.

Bu yn arddel crefydd Mab Duw dros 32 o flynyddoedd - derbyniwyd hi yn aelod eglwysig yn y Capel Ucha', Steuben, a pharhaodd ei haelodaeth yno, yn gymeradwy ac anwyl gan ei brodyr a'i chwiorydd yn yr eglwys, hyd angen. Gellir dweud amdani, ni a hyderwn, ei bod yn un o'r "ffyddloniaid yn Nghrist Iesu," - o ysbryd llariaidd, tyner ac addfwyn, ac yn dra ffyddlon yn ei chyfraniadau. Dysgwylid wrthi pan byddai eisiau cymorth, ac ni byddai y disgwyliad yn ofer.

Bu yn wael ei hiechyd ac yn analluog i ddyfod i'r addoliad cyhoeddus dros rai blynyddau, a chynelid moddion yn awr ac eilwaith yn ei hanedd. Ei chystudd diweddaf oedd fyr, - ei gobaith yn dyfod yn fwy diysgog fel yr oedd yn nesu i angeu, - a therfynodd ei gyrfa ddaearol mewn tangnefedd.

Claddwyd ei rhan farwol yn monwent yr addoldy y perthynai iddo, a gweinyddwyd y moddion arferedig ar yr achlysur galarus gan ei gweinidog, R. Everett. Coffadwriaeth y cyfiawn sydd fendigedig.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Awst 1851.