MRS. DOROTHY ROBERTS, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Ebrill 30ain, 1851, yn Remsen, yn nhÅ· Hugh Richards, Enlli, yn 72 oed, Mrs.Dorothy Roberts, brodor o sir Gaernarfon.Yr ydoedd yn aelod o eglwys y Bedyddwyr yn Remsen. Bu yn proffesu gyda'r un enwad dros 60 mlynedd. Yr oedd yn bur isel arni o ran ei hamgylchiadau at ddiwedd ei hoes yn y fuchedd hon; ond mae seiliau cedyrn i gredu ei bod wedi goddiweddid llawenydd a hyfrydwch, a chystudd a galar wedi ffoi ymaith, lle na ddywed neb o'r preswylwyr, Claf ydwyf. Mai laf, hebryngwyd ei daearol dy i ystafell fechan yn mynwent "Capel Isaf," Steuben, pryd y gweinyddodd y Parch. William Jones, Remsen.