MR. HUGH ROBERTS, LEHIGH GAP, PENNSYLVANIA.
Ebrill 19eg, 1851, yn y Gap Bach, ger Lehigh Gap, Pennsylvania, o'r Darfodedigaeth, Mr Hugh Roberts, gynt o Lanrug, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, yn 31 mlwydd oed.Gadawodd wraig a thri o blant.
Mewn bedd yn gorwedd mae'n gaeth - Hugh Roberts,
Wir hybarch, ysywaeth;
Ow! hen elyn dynoliaeth,
I'w ddwyn i'w grafangau ddaeth.