MR. WILLIAM ROBERTS. CATTARAUGUS, NEW YORK.
Yn mis Mehefin 1851, yn sefydlfa Gymreig Cattaraugus, Caerefrog Newydd, Mr William Roberts, yn 41 mlwydd oed.Yr oedd yn torri coed ar y ffarm y mae Mr John Jones yn byw arni, a syrthiodd pren arno gan ei ladd mewn eiliad.
Yr oedd wrtho ei hun ac ni chafwyd y corph hyd dranoeth.
Yr oedd yn enedigol o Brynyr wy, Trawsfynydd, Meirionydd. Symudodd oddi yno rye bryd i Merthyr Tudfil, ac o Ferthyr daeth i America, ac i'r ardal hon tua chanol yr haf, 1850.
Dyn tawel ac addfwyn oedd William Roberts, a theimlir colled fawr ar ei ôl - yr oedd yn aelod gyda'r Annibynwyr. Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan y Parch. James Griffiths.