THOMAS P. THOMAS, WELSH HOLLOW, DODGEVILLE, WISCONSIN.

Awst 14eg, 1851, ar ôl byr afiechyd o'r Ennynfa yn yr Ysgyfaint, Thomas P., mab John a Gwen P. Thomas, gynt o Ffestiniog, Meirionydd, Gogledd Cymru, ond yn bresennol o Welsh Hollow, ger Dodgeville, Wisconsin, yn 4 blwydd a 3 mis oed.

Cynnaliwyd cwrdd gweddi gyda'r nos, i gydymdeimlo â'r teulu galarus yn eu trallod. Am l ar gloch, ddydd Gwener ymgasglodd tyrfa fawr yn nghyd i hebrwng ei weddillion marwol i fynwent newydd Dodgeville. Cyn cychwyn pregethodd yr ysgrifenydd oddiar 1 Thes. iv. 18, a chyflawnwyd y gwasanaeth arferol wrth y bedd gan Mr. Griffith Jones, Caergybi.

Thomas bach sy'n ìach yn awr - o'r gofid
A gafdd mor ddirfawr;
Dydd olaf daw o ddulawr
Ar wedd Iôn yn hardd ei wawr.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Hydref 1851.