MR. ROBERT WILLIAMS, HOLLAND PATENT, NEW YORK.

Ar y 18fed o Fai, 1851, Mr. Robert Williams, Holland Patent, Caerefrog Newydd.

Mab ydoedd i William Roberts, Fach Wen, Dyffryn Ardudwy, Meirionydd.

Symudodd ef a'i deulu i'r wlad hon ers deg mlynedd yn ôl. Ac yn fuan ymunodd ef a'i wraig â'r eglwys Annibynol yn Remsen, a buont yn aelodau ffyddlon yno hyd nes iddynt symud i'r lle uchod, ac yma hefyd y cyflawnasant ddylyn yr Arglwydd gyd a'r achos oedd wanaidd ac isel. Cyflawnodd ef swydd diacon yn y lle hwn am amryw flynyddoedd.

Yr oedd yn gyfaill siriol iawn, yn frawd parchus, ac yn ffyddlawn dros yr achos yn y lle, ei dŷ bob amser yn gartref siriol i gyfeillion Mab Duw.

Er ys yn agos i flwyddyn yn ôl cymerwyd ef yn glaf iawn, a bu felly yn hir. Ond gwellhaodd i raddau, ond nid yn gwbl, a'r diwedd fu i'r afiechyd droi yn ddarfodedigaeth a dybenu ei yrfa yn y byd. Cafodd hir gystudd, ac ar brydiau yr oedd yn dra phoenus: ond cafodd y fraint o ddyoddef y cyfan yn amyneddgar, gan barhau i ymlynu yn Nghrist mewn ffydd, gobaith a chariad, hyd y diwedd.

Yr oedd yn briod ffyddlon, tad tirion, a gadawodd wraig a dau o blant ar ei ôl mewn trwm alar a mawr golled, a chollodd yr eglwys hefyd un o'i ffyddloniaid. Ond hyderwn fod y tro yn enill ac elw mawr iddo ef. Cyflawnwyd gwasanaeth y claddedigaeth gan y Parch. W. D. Williams, H. P., a'r ysgrifenydd.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1851