MR. ROWLAND L. EDWARDS, CINCINNATI, OHIO.

Mai l0fed, yn nhŷ ei frawd, Mr. Rowland L. Edwards, Cincinnati, John Edwards, Pen-y-weirglodd, ger Dinas Mawddwy, Sir Feirionydd, yn 21 mlwydd oed.

O'r braidd y gallodd gyrhaedd y ddinas hon ar y 4ydd o'r un mis o'r hen wlad, gan fod afiechyd wedi ymaflyd yn ei gyfansoddiad cyn ymadael a'r llong.

Dywedai rai dyddiau cyn marw mai ei unig obaith am fywyd tragywyddol oedd haeddedigaethau yr Hwn a fu farw ar y groes, a'i fod wedi cyflwyno ei hunan yn gwbl i'r Arglwydd er dechreu ei fordaith. Hyderir fod gweddiau ei fam ac eglwys y Dinas ar ei ran, wedi cael eu hateb (mewn rhan o leiaf) a'r rhan bwysicaf hefyd, er mewn ystyr dymorol eu bod hwy ac yntau wedi eu siomi.

Y gobaith am bir oes, a chysur, a llwyddiant, 'ì'n cyfaill, yn freuddwyd siomedig a droes; Yn nhir y gorllewin, ei einioes ar ddiflant ; A'i haul yn gaddugawl dywyllwch a droes. Alltud o Gyfeîliog.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1852