MRS. ELINOR DAVIES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mawrth 29ain, 1852, yn Remsen, Caerefrog Newydd, yn 64 mlwydd oed, Elinor, gwraig Mr. John R. Davies.

Brodor ydoedd o blwyf Llangwynadle, sir Gaernarfon, Gogledd Cymry. Yr oedd yn aelod gyda'r T. C. er ys 40 mlynedd.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1827; ymsefydlodd gyda'i phriod yn agos i Ben-y-graig, Remsen: buont eu dau yn gynnorthwvol i ddechreu yrachos yno.

Symudasant i ardal Enlli, ac yno y perthynai pan y bu farw. Dyoddefodd gystudd trwm am ychydig ddyddiau, a gorphenodd ei dyddiau a'i llygad yn gweled yr iachawdwriaeth.

Hebryngwyd ei gweddillion i gladdfa Pen-y-graig. y Peirch M. Roberts a D. Williama, Holland Patent, yn gweinyddu ar yr achlysur.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Awst 1852