MR. JOHN GRIFFITH, NEW YORK.
Ionawr 17eg, 1852, yn ninas New York, o'r darfodedigaeth, JOHN GRIFFITH, genedigol o Aberdaron Lleyn, swydd Gaernarfon. yn 55 mlwydd oed.Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818. Bu tan gystudd trwm a di-ildio am yn agos i flwyddyn a haner, a gwelodd yr Arglwydd yn dda fendithio ei gystudd iddo, i'w ddychwelyd ato ei hun. Bu mewn cyfyngder mawr o ran ei feddwl yn achos ei sefyllfa rhyngddo a'i Farnwr, - ymwelwyd ag ef yn ffyddlon gan weinidog ac aelodau Eglwys Bresbyteraidd Saesonig, i ba un y perthynai ei wraig, (nid oedd efe yn aelod,) - a llewyrchodd yn rhyfedd ar ei feddwl ychydig cyn ei symud, ddarfod iddo ryngu bodd Duw, trwy gredu a phwyso ar dystiolaeth Duw am ei Fab, a chafodd y fath brofiad o faddeuant, nes oedd ei enaid yn orfoleddus yn wynebu'r afon. Gadawodd wraig a merch alarus ar ei ôl.
Hebryngwyd ei weddillion marwol i Gladdfa y Coed gwyrddion (Greenwood Cemetery).