MRS. MARGARET GRIFFITHS. NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.
Hydref 18fed, 1852, yn Nelson, swydd Madison, New York, yn 31 mlwydd oed, MARGARET, priod Mr. William Griffiths, y rhai a symudasant i'r wlad hon tua thair blynedd yn ôl o Lanegryn, swydd Meirionydd, G.C.Y dydd canlynol ymgynullodd tyrfa luosog o Gymry caredig a rhai Saeson i dalu y gymwynas olaf iddi, gan hebrwng i dŷ yr hen gartref, yr hwn sydd yn ymyl y Capel, lle y mae y Cymry yn arfer addoli. Cafodd hir gystydd o glefyd y dyfrglwyf. Dyoddefodd yn dawel dros 3 blynedd, gan ystyried mai yn llaw ei Thad nefol yr oedd y wialen.
Gadawodd fab bychan 4 blwydd oed i ofal ei phriod tyner a Thad yr amddifad yn ngwlad yr anial, i alaru ar ei hol. Ca'dd y fraint o gael ei magu gan rieni crefyddol yn Eglwys Dduw, gyda y Trefnyddion Calfinaidd; ac yn oedd eu gweddiau a'u cynghorion i'w gweled arni pan yn marw. Dywedai wrth yr ysgrifenydd ei bod pan yn ieuanc wedi gadael tŷ Dduw, i gael profi pleserau plant y byd hwn.
Gwelodd yn fuan nad oeddynt ddim i enaid, ac ymalfodd yn y pleserau "can mil purach," sydd yn gynwysiedig mewn gwir grefydd, y rhai, fel yr ydym yn hyderu, oedd yn troi yn elw iddi yn angeu. A gobeithio y bydd hyn yn effeithio er daioni er dwyn eo pherthynasau i ymofyn am y rhan dda yr hon ni ddygir oddiar ei pherchenog.