MRS. MARY GRIFFITHS, NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.
Gorphenaf 9fed, 1852, yn Nelson, swydd Madison, Caerefrog Newydd, yn 57 mlwydd oed, Mary, priod Mr. William. Griffiths, gynt o Dolwyddelen, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.Symudodd hi a'i thieulu i'r wlad hon tua 9 mlynedd yn ôl. Ni fwyuhâodd lawer o gysuron y bywyd hwn ar ôl dod i'r wlad hon; bu yn agos i 6 mlynedd heb fawr o iechyd; er treio llawer â meddygon, gwaethygu oedd yr hen babell briddlyd yn barhaus, nes iddi o'r diwedd fyned yn rhy adfeiliedig i'r enaid i breswylio ynddi yn hwy; am hyny cymerodd ei aden ac ehedodd i'w elfen ei hun, gan adael ei phriod a 7 o blant i alaru ar ei hôl.
Ar achlysur ei chladdedigaeth, pregethodd yr ysgrifenydd oddiar Mat. xxiv. 44. Bu yn aelod gyda y T. C. am lawer o flynyddoedd. Soniai lawer am yr hyfrydwch a fwynheai gyda'i chwiorydd crefyddol ar hyd hen fryniau cysegredig Dolwyddelen yn amser y diwygiadau crefyddol; bu eu hochrau yn adseinio ei mawl, a'u daear yn derbyn ei dagrau lawer noswaith pan yn tywallt ei chalon mewn gweddi ger bron Duw. Gofalai bob amser fod y ddyledswydd deuluaidd yn cael ei chynnal yn rheolaidd yn ei theulu, ac os na fyddai ei gŵr gartref, llenwai y bwlch ei hunan; a gobeithio y bydd ffrwyth ei chynghorion i'w gweled yn ei phlant sydd ar ei hôl. Ei chysur pan yn eu gadael, oedd meddwl fod gan Fab y dyn, ar y ddaear, awdurdod i faddeu pechodau; ac ar hyny gorphwysodd ei henaid.