MR. GRIFFITH ELLIS, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Hydref 18fed, yn 44 mlwydd oed, Mr. Griffith Ellis, genedigol o Feddgelert, Swydd Gaernarfon, Cymru, ond yn bresennol o Schuyler, Swydd Herkimer, C. N.

Ymfudodd ef a'i deulu i'r wlad hon o'r Ffestiniog, er ys wyth mlynedd yn ôl. Bu fyw ran o'r amser yn Newport, a'r gweddill yn y lle uchod. Yr oedd yn dderbyniwr cyson o'r Cyfaill er ei ddechreuad - yn ddyn cariadus, ac mewn parch mawr yn yr holl gymydogaeth.

Gadawodd ar ei ôl wraig a chwech o blant hiraethlon.

Pregethwyd ar yr achlysur galarus, gan y Parch. Robt. Meredydd, i dyrfa luosog o'i gydgenedl.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Rhagfyr 1839.