MR. JOHN T. HUGHES, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn mhentref Remsen, Mawrth 21ain, ar ôl cystudd byr, Mr. John T. Hughes, o Steuben gynt, yn 76 mlwydd oed.Yr oedd yn un o'r hen sefydlwyr yn Sefydlfa Gymreig Steuben. Nid oes ond tua thri eto yn aros o'r Cymry a ddaethant i mewn yma o'i flaen ef, heb law ychydig bersonau genedigol yn y lle.
Ymfudodd i America o le a elwir Sarn Mylldyrn, yn mhlwyf Mylldyrn. Lleyn, yn y flwyddyn 1800. Yr oedd yn aelod eglwysig er's amryw flynyddau yn nghyfundeb y T. C. yn Remsen.
Claddwyd ef yn monwent Penycaerau.