MRS. ANN JONES, NELSON, MADISON COUNTY, NEW YORK.

Mehefin 7fed, 1852, yn Nelson, swydd Madison, Caerefrog Newydd, Ann Jones, yn 62 mlwydd oed, priod Mr. Edward. Jones, gynt o'r Pantenddwyn, Dyffryn-Ardudwy, ger Abermaw, sir Feirionydd, Gogledd Cymru.

Bu yn aelod barchus gyda y T. C. dros flynyddau. Yn mhen yr ugain diwrnod ar ôl croesi y moroedd mawrion i'r wlad hon, croesodd afon angau, "I wlad sydd well i fyw," (yr ydym yn hyderu,) nag America, lle nad oes nag oerni na gwres, gormodol i nychu y gwau.

Dranoeth daearwyd ei rhan farwol yn y fynwent wrth y capel lle yr ydym ni Gymry yr ardal hon yn ymgynnull i addoli. Gweinyddwyd a phregethwyd ar yr achos yn y capel gan y Parch. John Lloyd.

Dyma y drydedd o'r Cymry a gladdwyd yn yr ardal hon er pan mae y Cymry wedi dechreu selydlu yma.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Gorphenaf 1852.