MRS. ELIZABETH JONES, PENYGRAIG, REMSEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Merch ydoedd Mrs. Jones i William ac Elizabeth Prichard, Tŷ Howell, Aberdaron, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru, ac yn y lle hwnw y ganwyd Mrs. Jones. Yr oedd yn un o unarddeg o blant - yr oedd pump yn hyn na hi, a phump yn ieuangach.

Ymfudodd i'r wlad hon yn y flwyddyn 1818. Ymfudodd ei holl deulu i'r wlad hon, oddieithr un - rhai o'i blaen, a rhai ar ei hol.

Priododd yn y flwyddyn 1820 gyda Mr. Robert G. Joues, Gareg Fawr, Steuben, a chawsant amryw o blant, o ba rai y mae y rhan fwyaf o honynt eto yn fyw.

Ymunodd â chrefydd yn y flwyddyn 1821, yn y Capel Uchaf, Steuben, pan yr oedd yr Annibynwyr a'r Trefnyddion Calfinaidd yn cyd-addoli yno. Pan ymadawodd y T. C. â'r Capel Uchaf, aeth hithau gyda hwynt, ac a wnaeth ei chartref yn eglwys Penygraig, a bu yno yn aelod hyd ddydd ei marwolaeth.

Ei chlefyd oedd y darfodedigaeth, ac wedi hir nychdod ymadawodd â'r byd hwn mewn tangnefedd, Mehefin 15, 1852, yn 51 mlwydd oed.

Hebryngwyd ei chorph i fynwent Penygraig, lle yr oedd plant iddi wedi eu claddu o'i blaen. Yr oedd Mrs. Jones o ran ei thymher naturiol yn ddynes fywiog a siriol. Byddai yn derbyn y rhai a ymwelent â hi gyda sirioldeb anarferol, ac os byddai arnynt angen am rywbeth fyddai ganddi hi, gweinyddai iddynt gyda'r sirioldeb mwyaf.

Pan ddygwyddai i ryw un dyeithr ddyfod i'w thŷ, gwnai dderbyniad croesawgar o hono, ond byddai yn taflu ei llygad craff arno, yn awr a phryd arall, âc yn clustfeinio ar ei ymadroddion, fel pe bnasai am ffurfio barn am dano, cyn tywallt llawer o'i meddwl iddo, ond os byddai ei barn yn troi yn ffafriol o'i du, yna tywalltai ei meddwl iddo yn rhwydd (cymaint a fyddai yn weddys iddi) a dangosai y fath sirioldeb tuag ato, nes gadael argraff ddymunol ar ei feddwl wedi ei ymadawiad â hi.

Yr oedd Mrs. Jones yn ddynes ymroddgar yn ei chylch, - fel gwraig, fel mam, fel cymdoges, ac fel aelod crefyddol; yr oedd yn goron i'w gŵr, yn anrhydedd i'w phlant, yn llesol i'w chymydogaeth, ac yn addurn i'w phroffes. Yr oedd yn ddynes gymwynasgar. Os byddai rhyw gyfyngder ar rai o'i chymydogion, byddai hi yno yu un o'r rhai cyntaf ac yn un o'r rhai olaf yn ymadael; nid dyfod yno ac edrych, a sefyll ar gyfer eu pla a wnai hi, ond gweinyddai ryw gysur iddynt yn ddioed. Ymdrechai i osod ei thy mewn trefn, fel y gallai fyned i ymweled â'r rhai fyddai yn gyfyng arnynt, a chynorthwyid hi hefyd gan ei phriod i weinyddu ei chymwynasau i'r rhai a fyddai mewn angen amdanyst.

Yr oedd Mrs. Jones yn un o dueddfryd grefyddol. Dangosai hyn yn ei hymddyddanion, ac yn ei hymarweddiad cyffredinol. Yr oedd yn hawdd ganddi ymddyddan am bethau crefyddol, a dangosai ei theimladau crefyddol weithiau yn lled rwydd mewn ymddyddanion personol, ac wrth adrodd ei thywydd yn yr eglwys. Yr oedd ei hymarweddiad yu cyfateb i'w phroffes. Crefydd a'i phethau oeddynt ei phethau penaf, a rhoddai y flaenoriaeth i grefydd ar bob peth arall. Ni welais fawr o dai yn y wlad yma mor wasauaethgar i grefydd a'i thŷ hi: os byddai y byd a chrefydd yn gofyn cael eu gwasanaethu ar yr un adeg, byddai raid i'r byd roi i fyny i grefydd bob amser a chymeryd ei wasanaethu yn olaf.

Yr oedd Mrs. Jones fel pe buasai wedi ei gwneud o bwrpas i wasanaethu crefydd: yr oedd amryw bethau wedi cyd gyfarfod yn fanteisiol iddi fod felly, yr oedd yn byw yu ymyl addoldy, - yr oedd da y byd hwn at ei gwasanaeth. - yr oedd ei phriod o'r un dueddfryd, - a mwy na'r cwbl yr oedd ganddi hithau galon a chymhwysderau i hyny. Gallesid ymhelaethu, ond rhag ofu eich blino chwi a'ch darllenwyr, ymattaliaf.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Ebrill 1853.