MR. HENRY JONES. CALIFORNIA.

Enw yr ymadawedig ydoedd HENRY JONES, gŵr ieuanc 28 oed, a ymfudodd i America dair blynedd i'r haf diwethaf. Gwasanaethodd er pan ddaeth i America hyd Ebrill diweddaf, gyda boneddwr o'r enw Mr. Willard Clark, ger Holland Patent, swydd Oneida, talaeth Efrog Newydd. Yr oedd yn was da i'w feistr, ac am hyny yr oedd yn anwyl gan y teulu oll ac yn nahawdd iawn ganddynt ymadael ag ef.

Ond yr oedd yr awydd am fyned i Califfornia wedi magu mor gryf ynddo fel llawer eraill, fel nad oedd dim a ddywedid wrtho yn llwyddo i ddofi ei awydd.

Bu y Parch. Evan Griffith o Utica, a Mrs. Griffith ei fodryd, gyfneither ei fam, yn ymdrechu ei berswadio i roi i fyny y meddwl am Califfornia; ond ofer a fu eui holl ymdrech.

Galwodd yn nhy Mr. Griffith wrth gychwyn i ffarwelio a'r teulu; nid oedd ei ewuthr gartref ar y pryd, ond cafodd gynghorion da gan ei fodryb, a dywedodd wrtho yn sobr nad oedd yn dysgwyl ei weled byth mwy.

Yr oedd HENRY yn fab i Henry a Elizabeth Jones o'r Bodilanfach, plwyf Llanfihangel y Penant, swydd Feirion, Gogledd Cymru. Mae ei fam yn ferch i Mr. Ellis Owen, Glanllwydan, o'r un plwyf, a'i dad yn fab i Mr. Henry Jones, gynt o Nant y Mynach, plwyf Towyn o'r un swydd. Mae ei dad o ochr ei fam yn etifedd Pont Phyllip, plwyf Celynin, o'r un swydd, ac yn hiliogaeth yr enwog a'r anfarwol Dr. Owen. Mae ei daid yn frawd i fam Mrs. Griffith o Utica, ac y mae llinach y teulu i'w weled yn "Hanes Bywyd" mam Mrs. Griffith yn Nysgedydd Mawrth 1831.

Nid oedd HENRY yn aelod o un eglwys pan yn cychwyn tua Califfornia, er ei fod wedi bod yn wrandawr cyson o'r efengyl er yn blentyn; yr oedd ef fel llawer eraill yn addunedu ac yn bwriadu ymofyn am grefydd rywbryd, ac wrth farw yn gofidio na buasai yn gwrando ar lais ei athrawon yn gynt, yn lle aros hyd angeu yn esgoreddfa y plant i wrando ar iaith wenieithus cig a gwaed.

Eto yr oedd HENRY, o ran ei gymeriad cyffredin, yn foesol a da; o dymer naturiol hynaws, ac yn hoffus iawn gan ei holl gydnabod. Cychwynodd i Califfornia gyda Mr. John Davies, gof, o Holland Patent; yr oedd Mr. Davies wedi bod yno o'r blaen, ac wedi bod yn lled lwyddiannus.

Yr oedd HENRY a Mrs. Davies yn hen gymydogion anwylgu, ac wedi eu magu yn y ddau dŷ agosaf i'w gilydd, sef y naill yn Bodilanfach, a'r llall yn Nantcawfach. Felly yr oedd HENRY yn gweled ei fod yn cael manteision, wrth gael priod ei hen gymydoges yn gydymaith, a hwnw yn ddyn hynaws, caredig a chrefyddol, ac wedi bod yn Califfornia o'r blaen. Yr oedd Mr. Davies yn ymrwymo cyn cychwyn y gofalai amdano hyd eithaf ei allu, ac ni bu yn llai na'i air fel y tystiai HENRY ar ei wely angeu.

Yn mhen ychydig ddyddiau wedi cychwyn o New York cymerwyd HENRY yn glaf iawn o glefyd y mor; wedi hyny cymerwyd ef gan y dolur rhydd, erbyn hyn dechreuodd HENRY ddigaloni ac ofni y byddai marw; ac y mae Mr. D yn barnu i'w ofnau wneud llawer o niwaid iddo ar hyd y daith. Ymhen ychydig ddyddiau wedi gadael porthladd Acapolco cafodd oerfal trwm, a bu yn lled glaf am rai dyddiau;ond yr oedd wedi gwellhau yn lled dda erbyn cyrhaedd i San Francisco. Tranoeth wedi cyrhaedd i San Francisco cwynai fod gofid yn ei goesau, a thrwy anhawsdra mawr yr ymlwybrai o fan i fan.

Arhosodd Mr. Davies gydag ef ddau ddiwrnod, ond gan fod eu harian bron a darfod, aeth Mr. Davies i ymofyn am waith gan addunedu anfon am HENRY ato i'r fan y ca'i waith; ac felly y gwnaeth. Ond gan nad oedd yn dyfod, aeth i ymofyn amdano, a chafodd ef dan law y meddyg, wedi cypio ei goesau ac yn gwellhau yn dda.

Yn ol hyn, c ychwynasant mewn agerfad tua Sonoma, lle y cafodd bob ymgeledd a thynerwch dichonadwy; ond ymhen ychydig ddyddiau dechreuai gwyno fod rhyw afiechyd ar ei galon, cyffelyb ag a fuasai arno yr haf cynt; a'i fod yn ofni na wellai mwy, ond gwellau a wnaeth dros ychydig. Yn ol hyn erfyniodd ar Mr. D ymofyn am waith iddo, a chafodd waith iddo mewn gwinllan. Dechreuodd weithio dydd Gwener, ac aeth Mr. D i edrych am dano bob Sabboth, a chafodd ef yn gwellau yn lled wych. Rhybuddiodd Mr. D ef i gymeryd gofal am dano ei hun, peidio a gweithio yn galed, a gochel yfed llawer o ddwfr. Yr oedd ei feistr wedi hysbysu i Mr. D ei fod yn ofni y lladdai ei hun wrth yfed gormod o ddwfr.

Trachefn aeth Mr. D i edrych am dano y Sabboth canlynol, ac er ei ofid cafodd HENRY yn ei wely. Gofynodd, "HENRY bach ai dyma lle yr ydych?" Atebai H, "Ie, John bach, yr wyf wedi myned i lawr eto." Cymerodd Mr. D HENRY gyd ag ef i'r lle yr oedd ef yn aros, ac aeth i ymofyn meddyg yn ddioed, a gwellhaodd H. drachefn. Cafodd Mr. D waith iddo drachefn, a $75 yn y mis o gyflog.

Rhybuddiodd ef drachefn yn ddifrifol i ofalu am ei iechyd, a pheidio a gweithio yn galed am wythnod neu bythrgnos; ond yn ddioed wedi i Mr. D ymadael, aeth at ddwfr ac ymdrochodd. Ymhenn y pythefnos gwedi hyn aeth ei gymalau yn boenus fel nad allai ond drwy boen a chymhorth ffyn i ymlwybro. Anfonodd Mr. D am iddo ddyfod i waered ato ef, ac felly y daeth mewn cerbyd.

Aeth Mr. D at y meddyg yn ddioed a gofynodd a oedd yn bosibl gwella H. eto? Dywedai y meddyg bod yn eithaf hawdd ond iddo ef gymeryd gofal am dano ei hun. Felly dechreuodd y meddyg ei gymeryd dan ei ofal, a thynodd ef i lawr fel ag yr oedd yn rhy wan i ymlwybro, (cyn hyn yr oedd wedi pesgi ac yn gnawdol iawn.) Ar ôl tynu digon arno i lawr, dechreuodd y meddyg roddi maethion (nourishment) iddo, ac yn mhen y mis yr oedd H. fel dyn newydd yn rhodio oddiamgylch ac yn dechrau holi am waith.

Ond gan ei fod wedi ei amddifadu o fwyd wrth gael ei dynu i lawr, a chan fod ei gylla wedi iachau, yr oedd ei awydd am fwyd yn gryf; a dydd Gwener wythnos i'r dydd y bu farw, daeth Mexicanes heibio, yn gwerthu gwin rawn (grapes) a bwytaodd H. yn rhy helaeth ohonynt, ac o'r bresych a phethau eraill i'w giniaw, fel yr aeth yn glaf cyn pen yr awr; trodd yn rhyddai a phoenau dirdynol yn ei ymysgaroedd, ac yn mhen ychydig dechreuodd gerdded yn waed oddiwrtho.

Yr oedd tri o feddygon gydag ef, ond methasant a chael dim i effeithio er lliniaru ei boenau er pob ymdrech.

Wedi deall nad oedd dim gobaith y gwellai o'r clefyd hwn, ymwrolodd Mr. D a dechreuodd ymddyddan ag ef am fater ei enaid. Yr oedd wedi ei glywed yn gweddio yn daer am faddeuant o'i bechodau, ac am gael ei olchi yn ngwaed yr Oen. Dydd Mercher canlynol, gofynodd Mr. D iddo, Beth oedd yn ei feddwl am grefydd heddyw, ac a oedd yn meddwl fod y fath beth a gwir grefydd? Atebai "O ydwyf, John bach, ac yr wyf yn credu fod y Gwaredwr yn alluog i achub hyd yr eithaf, a'i fod yn alluog i'm hachub inau, er mor anheilwng."

Ond yr oedd yn teimlo ei hun yn euog am nad ydoedd wedi ei arddel a chofio am ei farwolaeth dros bechaduriaid. Yr oedd yn awyddus dros ben am gael cofio unwaith am farwolaeth Crist cyn marw.

Anfonodd Mr. D am ddau weinidog yn ddioed i ddyfod yno. Wedi iddynt ddyfod i'r ystafell hysbysodd Mr. D iddo - estynodd yntau ei law iddynt, (gweinidogion Saesonig oeddynt). Gofynodd y Parch. W. Sweney iddo, pa fodd yr oedd ar ei feddwl. Atebai yntau mai cyfyng iawn, ond ei fod yn meddwl ei fod yn caru Iesu yn fwy o hyd, a'i fod wedi rhoddi ei hun iddo, ac y buasai yn ewyllysio cael cofio unwaith am ei angau cyn marw. Penliniodd Mr. S wrth ei wely ef, a gweddiodd yn daer drosto; ac wedi codi, ar ôl gofyn rhyw bethau iddo, derbyniodd ef yn aelod o'r eglwys, a gweinyddodd yr ordinhad o Swper yr Arglwydd iddo. Wedi hyn gweddiodd yn daer drosto, gan ddiolch am drefn achub a bod ychydig arwyddion fod H. yn ei gafael.

Darfu Mr. D tua bob haner awr ar ôl hyn, ofyn iddo pa fodd yr oedd yn teimlo, ac a oedd ofn marw yn cael ei symyd ymaith? Atebai yntau ei fod yn foddlon i farw, a'i fod yn ymdrechu rhoi ei hun i'r Gwaredwr; ond y buasai yn dda ganddo gael cusan ei fam, cyn ymadael. Erbyn hyn yr oedd ei draed a'i ddwylaw yn oeri, ond yr oedd yn parhau yn y meddiant o'i synhwyrau, a'i boenau wedi darfod.

Gofynodd Mr. D a oedd ganddo ddim a fuasai yn dymuned ei anfod i'w fam? Atebodd fod ganddo dri o lyfrau yn ei focs yn nhy Mr. Clark, ac y buasai yn dda ganddo iddi eu cael. Yna ymaflodd yn llaw Mr. D, gan ddiolch iddo am ei garedigrwydd, a sicrhaai y byddai iddo gael ei dalu gan yr Arglwydd, ac y byddai i'w berthynasau ei ddigolledu ond iddo anfon atynt. Daliodd ei afael yn llaw Mr. D tra y bu anadl ynddo, a bu farw yn hollol dawel a dilafur.

Dywed Mr. D yn ei lythyr ei fod yn credu fod yr Arglwydd gydag ef yn nglyn cysgod angeu, a'i fod wedi gadael tystiolaeth eglur ei fod yn huno yn yr Iesu. Gofidiai am nad oedd yn alluog i gynghori eo rieni, ei frodyr, ei chwiorydd, a'i holl berthynasau cyn ymadael; sicrhai y buasai yn eu hanog yn hyf i ymofyn am wir grefydd mewn bywyd ac iechyd.

Gan fod H. yn glaf ar hyd y fordaith, ac hefyd wedi cyrhaedd pen y daith, mae yn eglur fod Mr. D wedi cael helbul mawr gydag ef; mae yn amlwg hefyd ei fod wedi gofalu am dano fel pe buasai fab iddo. Yr wythnos ddiweddaf y bu H. byw ni chafodd Mr. D hamdden i roi cwsg i'w lygaid na dydd na nos.

Cafodd ei gladdu yn barchus, darfu boneddigesau ag oedd yn lletya yn yr un tŷ a Mr. D wneud ei amdo yn rhad, ac amwisgo ei arch â du, ac a muslin oddi mewn. Yr oedd o gostau tra y bu yn glaf, ac am ei fedd, ei arch a'i gladdu, (heb fil y meddyg) oddeutu $160.

Dysgwn oddiwrth hanes Henry(1), Mai nid eiddo gwr ei ffordd. (2) Na wyr rhieni wrth fagu plant pa beth a ddygwydd iddynt. (3) Y ffoledd o esgeuluso ymofyn am grefydd yn brydlawn. (4) Gwerth cyfaill ffyddlon mewn adfyd. (5) Fod chwant i ymgyfoeddogi yn arwain i drallod. (6) Y dylai perthynasau anog eu gilydd i weithredoedd da tra y byddont yn nghyrhaedd eu gilydd. (7) Fod plant mewn adfyd yn meddwl mwy am y fam nag am berthynas.
EVAN GRIFFITH, UTICA.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Rhagfyr 1852.