MR. HUMPHREY JONES, WESTERNVILLE, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Aelod parchus a Diacon ffyddlon perthynol i Eglwys y Methodistiaid Calfinaidd yn Rome.

Ganwyd gwrthddrych ein cofiant yn 1803. Bu ei rieni feirw pan oedd ef yn faban, a chafodd mewn canlyniad ei ddwyn i fyny gyda'i daid, John Prichard, Penrhos, Bodwnog, Lleyn, swydd Gaernarfon, G. C.

Pan yn 16 mlwydd oed ymunodd â phobl Dduw, yn nghapel y Nant.

Yn 1830 ymbriododd gyda Margaret, merch i John Williams, Ty'n-y-mynydd, Boduan, Lleyn. Yn fuan wedi hyny sefydlasant yn ardal Rhyd-y-clafrdy, lle y galwyd ef i'r swydd ddiaconaidd.

Oddeutu deng mlynedd yn ol ymfudodd gyda'i deulu i'r America. Treuliasant y pedair blynedd cyntaf yn nghymydogaeth Pen-y-graig a Remsen, swydd Oneida; ond tua chwe' blynedd yn ôl symudasant i Western, ger Delta, yn yr un swydd. Bu iddynt chwech o blant, pump yn awr yn fyw; magwyd hwynt yn yr eglwys; y mae y pedwar hynaf yn gyflawn aelodau, ac yn harddwch i'w proffes. Buwyd yn cynnal achos crefyddol yn yr ardal uchod dros amser; ond o herwydd symudiadau a phethau eraill, rhoddwyd hyny i fyny; yn ganlynol ymunodd ein brawd a'i deulu gyda ni yn Rome, er ein mawr gysur a lles yr achos.

Yn fuan ar ôl eu dyfodiad atom galwyd ef i wasanaethu ei swydd fel diacon, a hyny trwy alwad unfrydawl swyddogion ac aelodau yr eglwys. Cyflawnodd ei swydd mewn modd tra anrhydeddus.

Hydref 6ed, gorphenodd ei yrfa, yn 49 oed. Ar yr 8fed hebryngwyd ei weddillion i gladdfa "Western, y Parch. D. Lewis yn gweinyddu ar yr achlysur, yr hwn hefyd, Sabboth 17eg, yn Rome, a draddododd ei bregeth angladdol, oddiar Preg. ix. 10: "Beth bynag yr ymafael dy law ynddo i'w wneuthur, gwna â'th holl egni." Yr oedd y sylwadau yn hynod briodol i'r amgylchiad.

Gadawodd weddw mewn methiant mawr, canys y mae wedi colli nerth ei haelodau er ys blynyddau.

Bellach nodaf yn fyr rai pethau oeddent yn hynodi y brawd. Fel gwladwr a chymydog yr oedd yn darparu pethau gonest yn ugolwg pob dyn. Ni fyddai byth yn addaw un peth ac yn gweithredu fel arall; ni fyddai ei eirwiredd byth yn cael ei amheu gan neb. Yr oedd yn gymwynasgar fel cymydog; os byddai neb mewn cyfyngder, cynnorthwyai hwynt hyd eithaf ei ailu: er prawf o hyn mae y golled a'r galar a deimlir ar ei ol gan Gymry a Saeson yn dangos eu bod wedi colli un a garent ac a barchent yn fawr.

Ni chafodd y brawd hwn ei godi yn uchel o ran ei amgylchiadau yn y byd; na, lled arw a thymhestlog fu arno rai gweithiau o leiaf. Felly nid cyfoeth a'i cododd yn mysg lluaws ei frodyr ac eraill; na, trwy ras yr ydoedd yr hyn ydoedd: cafodd nerth gyda Duw fel tywysog, a chyda dynion, ac efe a orchfygodd.

Fel crefyddwr, yr oedd yn dwyn sêl diflino dros achos ei Feistr - yr oedd yn nodedig yn ei ffyddlondeb. Am ei bresennoldeb yn moddion gras, yr oedd yn syndod gan lawer pa fodd yr ydoedd mor ddigoll yn hyn; yr oedd ganddo tua saith milldir o ffordd, a byddai y cyfarfodydd gan mwyaf y nos, eto gwelid ef ynddynt gyda llawer o gysondeb trwy ystormydd a rhwystrau lawer. Am ei ffyddlondeb yn cyfranu at achosion crefyddol, gallesid meddwl wrth swm ei gyfraniadau fod ei amgylchiadau yn llawer iawn gwell na'r hyn oeddent. Pan yn ymddyddan â brawd ar y pen hwn yn ddiweddar, dywedai fod gair y prophwyd wrth y weddw o Sarepta wedi bod yn help mawr ìddo lawer gwaith: "Eto gwna i mi o hyny deisen fechan yn gyntaf." Am ei agwedd yn moddion gras, yr oeddent yn brydferth; byddai ei wynebpryd fel yn cyfnewid pan yn nes at drothwy y capel, megys yn dywedyd, "Lle ofnadwy yw y lle hwn." Ni fyddai byth yn eistedd pan yn canu, ond canai fel y gallai bob amser; pan yn cyduno mewn gweddi, ymbenliniai yntau; pan bregethid, rhoddai y gwrandawiad mwyaf astud. Cristion da, a Christion yn rhagori ydoedd ef.

Fel blaenor, yr oedd yn llanw y lle pwysig hwnw gyda llawer o ddoethineb a medrusrwydd.

Ychydig o wythnosau cyn ei gymeryd yn glaf, daeth a'r ddyledswydd bwysig o ganu mawl ger bron yr eglwys ddwywaith o leiaf. Er nad oedd ganddo ond y radd leiaf o fedrusrwydd mewn rheolau cerddoriaeth, eto ymdriniai â'r mater megys pe buasai yn ben cerddor, gyda medrusrwydd, grym a sêl. Pan y dywedai efe, ni ddywedid drachefn, oddyeithr i rywun wneyd dan lywodraeth balchder ac anystyriaeth. Pan geryddai, dangosai bechod yn wrthun yn ngwyneb gair Duw. Pan yn cynnal y gweiniaid, dangosai sicrwydd a dianwadalwch trefn rasol Duw, nes y byddai yn ddigon i beri i'r llesgaf o'r plant ymlawenychu ynddi. Yr oedd rhywbeth yn ei ddywediadau yn gwahaniaethu oddiwrth bawb eraill; nid oedd yn nodedig o ffraeth, eto dywedai mor oleu fel y deallai pawb; nid oedd ganddo odidowgrwydd ymadrodd, eto cynnwysai ei fater mewn ychydig o eiriau, a phan ddarfyddai amlygu ei fater byddai yntau yn tewi; yr oedd ei feddwl mawr fel yn gorfodi ar ei leferydd. Yr oedd yn hynod sobr, eto yn siriol. Yr oedd yn hynod graff, canfyddai y balch a'r hunanol can gynted a neb, a ffieiddiai hyny yn mhawb y'i canfyddid. Yr oedd yn nodedig am heddwch ac undeb, ae aberthai bob peth yn mron, ie, ei deimladau ei hun, er mwyn ei gadw. Os byddai rhyw anghydfod gyda'r achos, archollid ef yn fawr; a dyma y fan yr oedd ei wendid yn ymddangos gyntaf a mwyaf o bob man arall. Mewn gair, Humphrey Jones ydoedd, ac nid neb arall; a gwn yn dda na thramgwydda neb ag oedd yn ei adnabod pe ddwedwn nad wyf yn adnabod neb mor gyflawn a gwastad yn mhob peth ag ydoedd ef, yn y pethau agyr oedd wedi ymgymeryd â hwynt. Yr oedd ei babell bridd yn llesgau peth er ys blynyddau, ond yr oedd ei rasusau a'i ddefnyddioldeb yn dyfod yn fwy i'r amlwg yn barhaus - yr oedd megys un yn brysio i gyflawni ei ddiwrnod gwaith.

Yr oedd ei glefyd yn drwm iawn, sef y Typhus Fever. Pan ymwelodd un o'r brodyr ag ef, dywedai fod un ffynnon nad ai yn hesp; dro arall dywedai fod ei ymddiried yn ddiysgog yn nhrugaredd Duw.

Bellach gadawn ein hanwyl frawd, a thrown ein golwg at ei Dduw, am iddo gyfodi rhywun i lanw ei le ef, gyda mesur helaeth o'r un ysbryd. Yr eiddoch, fec, Rome, Tach, 15eg, 1852.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ionawr 1853.