MR. JOHN JONES. WHITESBORO.

Mai 27ain, yn Whitesboro, oddeutu 40 mlwydd oed, Mr. John Jones, gynt o Lanfihangel Penmon, Swydd Feirionydd, Cymru.

Symudodd i'r wlad hon oddeutu pum mlynedd yn ôl. Clwyfwyd ef yn ei gefn er ys yn agos i flwyddyn yn ôl, trwy i bedrolfen (wagon) droi arno. Blinwyd ef yn ystod y gauaf diweddaf gan boen gwastadol yn ei gefn. Ond trodd, medd y meddygon, yn ddarfodedigaeth, yr hyn a'i gorphenodd.

Bu yn gorwedd am bedair wytbnos heb gyfodi ond ychydig. Cawsom gyfleusdra i ymddyddan ychydig ag ef yn ei gystudd, mewn perthynas i bethau crefydd a byd arall. Yr oedd yn dra awyddus i siarad yn nghylch ei enaid, ond yr oedd ei feddwl yn derfysglyd iawn. Yr oedd (a defnyddio ei eiriau ei hon) wedi dechreu proffesu Crist yn Nghymru; ond yr oedd wedi ei wadu, heb un achos, ac wedi byw ei oes yn ddigrefydd ac annuwiol, "A hyn meddai, "hyn sydd yn lladd fy enaid."

Ac nid oedd ganddo ond ymdaflu ar drugaredd Duw am ei fywyd yn awr, a theimîai os gwrthodid ef yno, ei fod yn golledig byth! - Dranoeth ymgynullodd y cymydogion i dalu eu cymwynas olaf i'w weddillion marwol.

Gweinyddwyd ar yr achlysur gan y brawd John R. Griffiths. a'r ysgrifenydd. Dyma rybudd difrifol eto i'r cannoedd sydd yn ymfoddloni i fyw yn ddigrefydd. O fe ddaw crefydd a mater enaid yn bwysig ar feddwl y difater cyn hir! O na byddai i ryw foddion bellach ddwyn ein cenedl i ystyried eu diwedd.
E. DAVIES.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Gorphenaf 1852.