MR. ROWLAND MORRIS, PEACH BOTTOM, YORK COUNTY, PENNSYLVANIA.

Mai 3ydd, 1852, yn Peach Bottom, swydd York, Pennsylvania, Mr. Rowland Morris, ac fel y tybir, ychydig uwchlaw 40 mlwydd oed, gan adael gweddw-wraig; a dau fachgen, i alaru oblegid yr amgylchiad.

Genedigol oedd o Gae'r gwyddel, ond fe allai yn fwy priodol, Cae'rgwyddau, swydd Arfon, Cymru.

Ymfudodd i'r wlad hon er ys tua wyth mlynedd yn ôl. Hebryngwyd ei ran anianol gan dyrfa luosog, i gladdfa Slate Ridge.

I'w weddw ef a'i amddifaid - Duw Iôn,"
Fyddo'n dwr bendigaid;
Nes gyru, llethu i'r llaid.
Ac wed'yn cadw'u henaid.
GUTYN OGWEN.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Mehefin 1852.