MRS. HANNAH ROBERTS. REMSEN, ONEIDA COUNTY.

Ionawr 2ail, 1852, yn 66 mlwydd oed, ar ôl hir a nychlyd gystudd, MRS HANNAH ROBERTS, gwraig i Mr Griffith J. Roberts, plwyf Remsen, a merch i James Roberts, plwyf Llannor, sir Gaernarfon.

Gadawodd ei phriod a phlant i alaru ar ei hol, - ei hunig ferch yn gystuddiol iawn ar y pryd. Yr oedd yn wraig rinweddol i'w theulu, ac yn gymydoges hawddgar.

Gwelodd lawer math o fyd, ar ei thaith drwyddo, a bu farw ar ochr bryn llwyddiant bydol. Dangosai lawer o barch i grefydd, - byddai yn awyddus am i rai ddarllrn a gweddio gyda hi pan yn ei chystudd, a byddai dan gryn drallod yn aml wrth feddwl ei bod yn mynd i'r byd mawr tragwyddol. Cynghorodd ei hanwyl briod i geisio yn gyntaf deyrnas Dduw, - a dyna y gair diweddaf.

Claddwyd ei rhan farwol yn Penycaerau. Gweinyddwyd ar yr achlysur i dorf luosog iawn o berthynasau a chydnabod, gan Morris Roberts.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1852.