MR. OWEN M. GRIFFITHS, TRENTON ONEIDA, EFROG NEWYDD.
Medi 'r 16eg, yn 37 mlwydd oed, yn y ddinas hon,Mr. Owen M.Griffiths, o blwyf Trenton, o fewn milldir i bentref Remsen, swydd Oneida, C. N.Yr oedd yr ymadawedig yn frodor o blwyf Bryncroes, Lleyn, Swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru. Ymfudodd i'r wlad hon tua ugain mlynedd yn ol. Rhan o ba amser a dreuliodd yn y ddinas yma, a rhan yn Oneida.
Yr oedd ei iechyd yn gwaelu er ys blynyddoedd, ac yn amlwg iddo ei hun a'i gyfeillion nad oedd ei dymhor ar y ddaear i fod ond byr. Saith wythnos cyn ei farwolaeth daeth ef a'i gydmares serchog fwyn i ddinas Caerefrog Newydd, gan fwriadu treulio ychydig o amser ar lân y mór; yn obeithiol y buasai hyny yn foddion adferiad iddo, ond, " nid eiddo gwr ei ffordd;" "canys nid fy meddyliau i yw eich meddyliau chwi,— medd yr Arglwydd."
Cawsant siomedigaeth ddygn-chwerw. Cymerwyd ef yn garcharor i'r ystafell wely dan law ei glefyd, y noson gyntaf, a bu yn gaeth nes ei ryddhau, yn ol ewyllys Duw, gan ddwylaw oerion angau. Natur ei glefyd, yn ol tystiolaeth ei feddyg diweddaf, ydoedd anhwylusder yn ngweithrediadau yr afu, yr hyn a effeithiau i attal y treuliad yn y cylla, a thrwy hyny a anhwylusai yr holl beiriant.
Bu yn ymofyn o bryd i bryd a llawer o feddygon medrus, ac yr oedd y gwr a weinyddai arno yn ei amser olaf yn feddyg enwog a llwyddiannus, eithr y cwbl yn ofer.
Yr oedd ein brawd, O. M. Griffrths, yn aelod parchus a chymeradwy yn eglwys Crist, gydâ'r enwad aelwir yn Drefnyddion Calfinaidd; ac arferai addoli mewn undeb a'r gangen cynnulledig yn Nghapel Cerrig, pentref Remsen.
Er ei fod yn marw yn mhell o'i gartref ac oddiwrth ei blant, eto ymostyngai yn dawel i'r drefn gan gredu fod y dyben yn ddoeth ac yn dda, er nad allai ei amgyffred y pryd hwnw, ond erbyn hyn mae y cwbl yn oleu iddo ef.
Dioddefai gystudd blin a maith heb rwgnach dim — methai orwedd am lawer o amser na nos na dydd, eto ni chlywid ef yn tuchan. Ac fel yr oedd ei gorff yn cael ei wanychu ymadfywiai yn ei ysbryd trwy ei ffydd yn cael ei chryfhau.
Gadawodd y trengedig wraig a chwech o blant galarus; ond fel y sylwodd ei hun gadawodd hwynt yn ngofal Un ag y sydd Dad i'r amddifaid ac yn Farnwr i'r gweddwon.
Boed i'w wraig y fraint o'i ddilyn ef megys ag y dilynodd yntau Iesu Grist, nes cyfarfod mewn gwell gwlad o'r hon ni fydd rhaid ymadael mwy.