MR. WILLIAM ROBERTS, PRAIRIE LA CROSSE, WISCONSIN.

Gorphenaf 11eg, 1852, yn Prairie La Cross, Wisconsin, o'r clwyf gwaed, yn 24 mlwydd oed, William Roberts, (Gwilym o'r Foel,) mab Mr. David. Roberts, Moel Gwynus, Plwyf Pistyll, swydd Gaernarfon, Gogledd Cymru.

Claddwyd ef yn mynwent newydd y lle uchod.

Huno dros ryw fyr enyd - mae Gwilym
Mewn gwely tywodlyd;
Cofiwn odd' yno cyfyd
Dydd barn a diwedd' y byd.
GOG GLAN OHIO.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Hydref 1852.