MRS. JANE THOMAS, FRENCH ROAD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Medi 16eg, 1852, yn nghymydogaeth French Road, Steuben, Caerefrog Newydd, yn 85 mlwydd oed, Mrs. Jane Thomas.

Yr oedd yn enedigol o swydd Gaernarfon, Gogledd Cyrmu, wedi ymfudo i'r America yn y flwyddyn 1832.

Yr oedd yn aelod grefyddol o gyfundeb y T. C. Hebryngwyd ei gweddillion i fynwent Capel Hebron, yn yr ardal uchod, y Parch. John D. Jones yn gweinyddu ar yr achlysur, oddiar Esa. xxv. 8.

Y Cyfaill o'r Hen Wlad ~ Ebrill 1853.