MR. HUMPHREY H. WILLIAMS. FRENCH ROAD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Mab Hugh ac Ellin Williams, Tocia, Aberdaron.

Y teulu wedi ymfudo i America yn 1818.

Ffermio yn ardal French Road yn Steuben.

Nid oedd erioed wedi priodi, byw gyda'i dad Hugh Williams, ei frawd Hugh a'i chwaer Ann.

Bu Humphrey Williams farw ar 1af Ionawr 1852 yn 54 oed.

Mae ei weddillion ef ac aelodau eraill o'r teulu wedi cael eu claddu ym mynwent capel Hebron, French Road.

Glyn Roberts ~ Hydref 2021.


MR. HUMPHREY H. WILLIAMS. FRENCH ROAD, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.

Ionawr 1af, 1852, yn Steuben, MR HUMPHREY H. WILLIAMS, mab Mr Hugh Williams, Tociau, tua 54 mlwydd oed.

Teimlir colled fawr yn y teulu ar ei ôl, gan mai arno ef yr ymddibynai trefnu a llwybreiddio pob peth yn mron yn y teulu. Yr oedd yn ddyn tawel, heddychol a chymwynasgar yn ei ardal.

Claddwyd ei ran farwol yn monwent French Road, a phregethwyd ar yr achlysur gan y brodyr D. Williams a R. Everett - oddiwrth y testynau canlynol, Preg. 8: 7 a'r rhan flaenaf o'r 8fed adnod, a Salm 103 : 15-17.

Y Cenhadwr Americanaidd ~ Chwefror 1852.