MRS. CATHARINE WILSON. TRENTON, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Yn mhlwyf Trenton, swydd Oneida, Tachwedd 3ydd, 1852, Mrs. CATHARINE WILSON, priod Mr. Robert Wilson, yn 80 mlwydd ac 11 mis oed.Enwau ei rhieni oedd Richard a Mary Thomas, y rhai gyda theulu a ymfudasant i America o Bryncroes, swydd Gaernarfon, a thiriasant yn y wlad hon Gorph. 25, 1795. O ddeuddeg o blant i Richard a Mary Thomas, nid oes yn awr ond tri yn fyw. Ene gŵr cyntaf Mrs. Wilson oedd William Lewis. Ni bu ei chystudd ond byr, a'i marwolaeth ydoedd sydyn ac annysgwyliadwy. Bu yn aelod eglwysig dros lawer o flynyddoedd yn Utica, a thrachefn yn Steuben.
Gweinyddwyd yn y gladdedigaeth gan R. Everett.