MRS. MARGARET GRIFFITHS, STEUBEN, ONEIDA COUNTY, NEW YORK.
Tachwedd 7fed, 1853, ar ôl hir gystudd, Mrs. Margaret Griffiths, gweddw Mr. John Griffiths, yn ychydig dros 86 mlwydd oed. Yr oedd yn enedigal o Aberdaron, swydd Gaernarfon; ymfudodd i'r wlad tua 35 o flynyddoedd yn ôl, yn nheulu Mr. William Griffiths, Llanllawen, yn yr hwn deulu y bu yn gwasananaethu dros lawer o flynyddoedd.Claddwyd hi yn mynwent y Capel Ucha', Steuben, lle yr oedd yn aelod eglwysig ers amryw flynyddoedd, a gweinyddwyd ar yr achlysur gan Mr. Evan Morris a R. Everett.