MISS CHARLOTTE HORN, BOSTON, MASSACHUSETTS.
Yn ninas Boston, yn anedd Miss Davies, No. 5 Mathan Place, Mehefin 5ed, 1853, Miss Charlotte Horn, chwaer Mr. Benjamin Horn gynt o Quincy, Massachusetts, yn 19 mlwydd ac 11 mis oed.Merch ydoedd Miss Horn i Mr. Richard Horn, Tanycapel, ger Bethesda, sir Gaernarfon.
Bu yn gystuddiol tua blwyddyn o'r darfodedigaeth. Teimla ei brawd yn dra galarus ar ôl colli chwaer anwylaidd jddo yn y wlad estronol hon.